Mae’n siwr eich bod yn gyfarwydd â chaffi a menter gymunedol Yr Orsaf ym Mhenygroes. Mae’r caffi wedi bod yn leoliad poblogaidd a llwyddiannus ers iddo agor ym mis Chwefror 2019.
Ond, oeddech chi’n gwybod bod gwaith adnewyddu wedi bod yn mynd ymlaen i greu llety gwyliau newydd sbon?
Ers misoedd, mae’r criw wedi bod yn brysur yn ail-wneud y lloftydd sydd uwchben y caffi er mwyn cynnig lle aros i ymwelwyr.
Mae’r adeilad wedi ei drawsnewid yn llwyr ac erbyn hyn ceir 3 ystafell wely chwaethus hefo ystafell folchi breifat yn ran ohonynt.
Mae’r ystafelloedd wedi eu henwi’n addas i gyd-fynd â ardal Dyffryn Nantlle: Ystafell Llifon, Dulyn a Silyn.
Mae’r adeilad hanesyddol yn dyddio nôl i 1829 pan oedd yn arfer bod yn dafarn. Llwyddodd y grwp i gasglu dros £50,000 i sicrhau pryniant yr adeilad yn 2016 ac ers hynny wedi derbyn nifer o grantiau gan y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a mwy.
Mae’r arian wedi mynd at ddefnydd da gan fod yr adeilad rwan yn cynnig profiadau cyfoethog i drigolion y gymuned yn ogystal â ymwelwyr.
Bydd y wefan newydd yn cael ei lansio dros y dyddiau nesaf a bydd modd archebu ystafell drwy’r wefan. Neu, gallwch gysylltu’n uniongyrchol â’r Orsaf: post@yrorsaf.cymru/ 07410982467