Lansiad byr Y Parsel Coch

Lansio addasiad o lyfr Nadoligaidd gan ’sgwennwr o’r Groeslon

Ar Goedd
gan Ar Goedd

‘Sgwennwyd Y Parsel Coch yn Almaeneg gan Linda Wolfsgruber a Gino Alberti.

 

Ond wrth i’r Nadolig agosáu, mae Llio Elenid Owen o’r Groeslon wedi addasu’r gyfrol i’r Gymraeg ar gyfer Gwasg Carreg Gwalch.

Gallwch cael blas o’r gyfrol yn y fideo uchod.

Pris y gyfrol yw £7.95, a gallwch gael gafael ar gopi yn eich siop lyfrau Cymraeg annibynnol, ar wefan Gwasg Carreg Gwalch, neu ar wefan Gwales.