Er cof am Mei Jones-CPD Nantlle Vale 

CPD Nantlle Vale

Begw Elain
gan Begw Elain

Yn ystod ein gêm gartref wythnos nesaf byddwn yn cynnal munud o gymeradwyaeth i gofio am ddyn arbennig iawn , Mei Jones (Wali Tomos).

Roedd Mei ac Alun Ffred (ein cyn cadeirydd ac aelod cymwys o’r pwyllgor presennol) yn ffodus iawn i ennill BAFTA Cymru yn 1993 am y gyfrol ddrama C’mon Midffild.

Roedd o’n agos iawn at galonau llawer ohonnom, nid yn unig fel Mei ond fel ei gymeriad hynod o ddiddorol Wali Tomos yn C’mon Midffild! Fel cefnogwyr i glwb pêl droed cefn gwlad, da ni gyd yn medru uniaethu hefo Wali, y cyfarfodydd pwyllgor o fri, y llunanwyr a’u penderfyniadau, trafod tic tacs cyn gêm,y tensiwn, y brwdfrydedd i weld ein clybiau yn llwyddo a’r holl gymeriadau rydym yn treulio cymaint o amser yn ei cwmni ar brynhawn sadwrn ar ol gem yn y dafarn hefo’r penci’s gwirion…….da ni gyd yn ddipyn o Wali’s!!

Mae’r Brwydr fawr Maes Dulyn yn atgof melys i ni gyd, gêm rhwng Bryncoch a sêr s4c, gyda Wali yn sgorio’r gôl i ennill ar gyfer Bryncoch. Fe glywir yn gân Bryn Fôn, (Sobin a’r Smaeliaid)Bwydr Mawr Maes Dulyn “diwedd fel hen stori, Wali’n taro’r tant, Y ddol aeth o’r golwg, dan draed dwy fil o blant”.

Lejand i’r diwedd Mei!

Fydde ni’n meddwl amdana ti’n trafod tic tacs heddiw

Tan tro nesa…. wowch hel iddyn nhw!

???????