Mae Parc Glynllifon yn un lleoliad fydd yn elwa o gronfa newydd gwerth £2.4 miliwn sy’n anelu at wella profiad ymwelwyr i Gymru.
Bwriad cronfa Y Pethau Pwysig yw rhoi cymorth i sefydliadau wrth gyflawni gwelliannau sylfaenol i seilwaith twristiaeth, a bydd 26 o brosiectau ledled Cymru yn derbyn arian.
Bydd Parc Glynllifon, gyda chefnogaeth Cyngor Gwynedd, yn defnyddio’r arian i wneud gwelliannau i’r toiledau, maes parcio ar fynedfa yno.
Maen nhw’n bwriadu gosod wyneb ‘grasscrete’ yn y maes parcio – system sy’n cyfuno gwair a choncrit mewn ffordd sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd – a byddan nhw hefyd yn lledu’r fynedfa.
Y gobaith yw y bydd y gwaith yn gwella profiad twristiaid sy’n ymweld â’r parc.
“Rhan bwysig o brofiadau pobol”
Fe ddywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, bod y gronfa yn hanfodol i gynnal gwaith yn rhai o atyniadau mwyaf poblogaidd Cymru, yn cynnwys Parc Glynllifon.
“Yn dilyn yr haf prysur a gawsom yma yng Nghymru, rydym wedi gweld y rhan bwysig sydd gan amwynderau twristiaeth leol ar wneud taith yn un gofiadwy,” meddai.
“Mae’r cyfleusterau hyn yn aml yn mynd heb sylw ond maent yn rhan bwysig o brofiadau pobol pan fyddant yn ymweld â Chymru ac maent hefyd o fudd i’r rhai sy’n byw yn yr ardal.
“Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu cefnogi’r sefydliadau hyn i wella profiad ymwelwyr yn eu hardaloedd.”