Mewn cyfres o hen ddyddiaduron sydd ar gadw yng nghanol y trysorau yng nghrombil y Llyfrgell Genedlaethol, mae nodyn arbennig iawn ar 24 Chwefror bob blwyddyn. 1917; ‘Mathonwy yn 16 oed’. 1924; ‘Penblwydd Mathonwy yn 23 oed’. Dyddiaduron Joseph Hughes, Tan’rallt ydi’r rhain, sef tad Mathonwy Hughes, y bardd, llenor a newyddiadurwr a fagwyd ym Mrynllidiart, un o’r tyddynnod uchaf ar lechwedd Cwm Silyn.
Heddiw, mi fyddai hi’n ben-blwydd ar Mathonwy yn 120 mlwydd oed. Ond faint wyddoch chi am un o feibion disgleiria’ Dyffryn Nantlle? A beth am ei ewythr, Silyn (Robert Roberts, brawd ei fam), y bardd a’r Sosialydd a fagwyd yn yr un tyddyn anghysbell ddeng mlynedd ar hugain o’i flaen o?
Ddiwedd mis nesa’, 28 Mawrth, mi fydd hi’n 150 o flynyddoedd ers geni Silyn. Dyma benderfynu felly ei bod hi’n hen bryd mynd ‘Yn ôl i Frynllidiart’ i ddathlu cyfraniadau Silyn a Mathonwy – mewn gŵyl rithiol ar Sul y Blodau 2021.
Cyn-ddisgyblion Ysgol Nebo
Gadawodd Silyn Ysgol Nebo yn 14 oed i fynd i’r chwarel, ac roedd ymysg y cyntaf i ennill ysgoloriaeth i Brifysgol Bangor. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1902 am ei bryddest ‘Trystan ac Esyllt’; mae’r Goron i’w gweld yn Amgueddfa Bangor. Bu’n weithgar efo’r Blaid Lafur Gynnar (yr ILP) pan oedd yn weinidog yn Nhanygrisiau, a chyfraniad mawr ef a’i wraig, Mary Silyn, oedd gosod sylfeini y WEA, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, yn y gogledd.
Aeth Mathonwy hefyd i Ysgol Nebo, ac yna i Ysgol Clynnog, ac mae’n nodi ei ddyled mewn mwy nag un lle i’r dosbarthiadau WEA a sefydlwyd gan Silyn. Fe ddaeth maes o law yn un o olygyddion Y Faner gyda Kate Roberts a Gwilym R. Jones, ac yn diwtor ei hun gyda’r WEA. Daeth yn brifardd Cadair Eisteddfod Genedlaethol 1956 am ei awdl ysgafn ‘Gwraig’; cadair sydd bellach yn byw gyda gor-wyres i Silyn yn Seland Newydd!
Tybed ai Brynllidiart yw’r unig dyddyn yng Nghymru i fagu dau brifardd mewn dwy genhedlaeth?
Dadorchuddio Plac Coffa
Yng ngeiriau Angharad Tomos, ‘Dyffryn Nantlle ddaru greu pobl fel Silyn a Mathonwy. Y gymdeithas yma a ffurfiodd eu gwerthoedd ac a’u trwythodd mewn diwylliant … mae’n werth cynnal diwrnod arbennig.’ Ac mae’n werth gosod plac coffa llechen i nodi hynodrwydd Brynllidiart, y tyddyn anial hwn sy’n adfail llwyr erbyn heddiw, ond a fu, nid yn unig yn fagwrfa i Silyn a Mathonwy, ond yn aelwyd fyrlymus o sgwrsio ac ymddiddan am ddegawdau. Byddwn yn dadorchuddio’r plac yn ystod yr Ŵyl.
Gwefan Teithiau Cerdded
Bydd gwefan yn cynnwys teithiau cerdded newydd o gwmpas Dyffryn Nantlle yn cael ei lansio yn yr Ŵyl i bobl eu dilyn yn eu hamser eu hunain. Bwriad y teithiau hyn ydi rhannu hanesion rhai o’r bobl, yr adeiladau a’r digwyddiadau a fu yma o’n blaenau ni, a bydd pob taith yn tynnu sylw at nodweddion arbennig ar y ffordd. Bydd y teithiau cyntaf yn mynd a chi i Frynllidiart, unai o gyfeiriad Tan’rallt, neu o gyfeiriad Nebo, gan efelychu’r daith yr oedd Silyn a Mathonwy yn ei gwneud i’r ysgol bob dydd.
Rhywbeth i bob cenhedlaeth
Bydd gweithgareddau i blant ar gael yn ystod mis Mawrth, gyda’r bwriad o ddangos rhai o ddoniau creadigol plant Dyffryn Nantlle heddiw yn ystod yr Ŵyl.
Dod i adnabod Silyn a Mathonwy dros Zoom!
“Rwyt ti wedi deffro’r Dyffryn, Math!’ Dyma un o’r cyfarchion lu a gafodd Mathonwy gan bobl Dyffryn Nantlle ar ôl ennill cadair 1956. “Bechgyn Dyffryn Nantlle o hyd yn ennill eu ffordd i ben y rhestr, ac yn dal i ‘godi’r hen wlad yn ei hôl’,” meddai un arall. Mae Dyffryn Nantlle’r gorffennol yn llawn o werinwyr goleuedig, yn chwarelwyr, amaethwyr, gwragedd, siopwyr, y rhan fwyaf ohonyn nhw, fel Mathonwy, yn ddigoleg, ac wedi eu magu i garu dysg a diwylliant. Dewch ‘Yn ôl i Frynllidiart’ efo ni i ddechrau cofio, dathlu a dysgu am eu cyfraniadau.
Am 7yh nos Sul 28 Mawrth, bydd dwy sgwrs fer i’w cael yn fyw dros Zoom, un ar Mathonwy gan Ffion Eluned Owen ac un ar Silyn gan Angharad Tomos. Nodwch y dyddiad a’r amser a chysylltwch â gwion.yrorsaf@gmail.com i gofrestru ar gyfer y digwyddiad.
Amserlen a mwy o wybodaeth i ddod dros yr wythnosau nesaf.
Fe welwn ni chi ar 28 Mawrth.