Ffilm fer yn fuddugol yn Eisteddfod yr Urdd 2020-21

Ysgol Llandwrog yn fuddugol yn y gystadleuaeth Creu ffilm Blwyddyn 6 ac iau.

Ysgol Llandwrog
gan Ysgol Llandwrog

https://youtu.be/gbe2ZbhywwE

Bron i ddwy flynedd yn ôl bellach bu’r dysgwyr yn ran o brosiect dalgylchol o dan y thema Môr a Mynydd. Lle gwell i gychwyn na wrth ein traed ac astudio hen chwedl yn gysylltiedig a Glynllifon- Stori Cilmyn Droed-ddu. Bu creu ffilm animeiddiedig yn ran creiddiol o’r thema o’r cychwyn a dyma ddechrau cynllunio a sriptio. Bu’n broses hir iawn gan i’r dysgwyr greu y pypedau a’r cefndiroedd a hyd yn oed animeiddio a ffilmio eu hunnain. Erbyn Mawrth y cyntaf 2020 roedd y ffilm yn barod ac fe wnaed y penderfyniad i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd o dan y gystadleuaeth Creu Ffilm Blwyddyn 6 ac iau. Ychydig a wyddwn na fyddai Eisteddfod oherwydd Covid 19. Sypreis mawr wythnos yma  oedd  derbyn e-bost ein bod wedi cipio y wobr gyntaf. Llongyfarchiadau mawr i’r dysgwyr fu wrthi ar y prosiect, Dysgwyr sydd bellach ym Mlynyddoedd 5,6 yn yr ysgol a blynyddoedd 7 ac 8 yn Ysgol Syr Hugh Owen.