







Cynhaliwyd Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri dros y penwythnos a chafodd Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Nantlle ddiwrnod llwyddiannus iawn.
Llongyfarchiadau mawr iawn i holl aelodau’r Clwb ar eu llwyddiant 👏🏼 Dyma ganlyniadau’r Clwb i chi…..
🥇Unawd Dan 16: Leisa Lloyd-Edwards
🥇Gwaith Cartref Dan 16: Begw Elain
🥇Unawd Alaw Werin: Leisa Lloyd-Edwards
🥇Unawd Sioe Gerdd: Leisa Lloyd-Edwards
🥈Unawd Alaw Werin: Elan Mair Williams
🥈Sgets: Dafydd, Cian, Awel, Elan a Mared
🥈Parti Llefaru
🥈Parti Cerdd Dant
🥉Unawd Dan 16: Elan Mair Williams
🥉Llefaru Dan 16: Elan Mair Williams
🥉Sgen ti Dalent: Anni a Tesni
🪑Y Gadair: Elan Mair Williams
Daeth y Clwb yn 3ydd ar ddiwedd y cystadlu gyda Chlwb Llangybi yn dod i’r brig unwaith eto eleni. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw ac i Siwan Prys Owen (Llecheiddior) ar gipio’r Goron.
Mae ein diolch yn fawr i Manon Eithinog, Ellen Gwern, Bethan Nantcyll, Sian Trigfan a Sara Lleuar am eu gwaith a’u cefnogaeth yn ystod yr wythnosau diwethaf. Diolch yn fawr iawn i chi 👏🏼
Fe fydd Leisa ac Elan yn mynd ymlaen i gynrychioli CFFI Eryri yn Eisteddfod CFFI Cymru ym mis Tachwedd. Pob dymuniad da i chi genod🍀