gan
Ar Goedd
Drwy gydol Diwrnod Rhyngwladol y Merched bydd y digwyddiad yn dathlu 15 o ferched dylanwadol Dyffryn Nantlle, yn ffigurau o bresennol a gorffennol yr ardal.
Bydd negeseuon yn ymddangos drwy gydol y dydd yn dathlu’r 15 ffigwr.
Yn ôl y trefnydd;
“Ddoe a heddiw, mae gan Ddyffryn Nantlle hanes hir o ferched dylanwadol ym mhob maes.
“Dyma gyfle gwych, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, i ddathlu 15 o ferched y Dyffryn.
“O’r maes cerddorol, llenyddol, gwleidyddol, a mwy na hynny, mae’n gyfle i fawrygu’r merched, a’u dathlu.
“Mae cyfle i bobol enwebu merch hefyd, drwy bostio ar y digwyddiad”
Gallwch ddilyn y digwyddiad drwy glicio ‘Going’ ar y digwyddiad Facebook.