Mae perchnogion busnes yng Nghymru wedi croesawu galwadau Plaid Cymru i ymestyn rhyddhad Treth ar Werth (TAW) ar gyfer busnesau lletygarwch am flwyddyn arall.
Ym mis Gorffennaf, penderfynodd Llywodraeth Prydain ostwng Treth ar Werth ar fwyd, llety ac atyniadau o 20% i 5%, ac fe gafodd ei ymestyn ymhellach tan ddiwedd mis Mawrth.
Yn ôl Richard Wyn Huws, perchennog Gwinllan a Pherllan Pant Du, yn Nyffryn Nantlle, byddai cynnal y rhyddhad Treth ar Werth am gyfnod estynedig yn darparu rhywfaint o sicrwydd i’w dyfodol ac yn rhoi’r cyfle a’r hyder i’r diwydiant adfer yn sgil effeithiau’r pandemig.
“Rhoi hyder i’r diwydiant i symud ymlaen”
“Mae o wedi bod yn help mawr iawn,” meddai Richard Wyn Huws.
“Mae gwerth cario hynny ymlaen – mae o’n rhoi hyder i’r diwydiant i symud ymlaen gan wybod fod o ddim yn costio 20% am bob dim ti’n prynu.”
Dywedodd y byddai dychwelyd i’r gost Treth ar Werth arferol o 20% yn “llorio” y busnes.
“Rydyn ni wedi buddsoddi lot yn ein busnes ni – rydyn ni’n byw mewn ardal hyfryd yn Eryri – Dyffryn Nantlle – ar gyfer y bobl leol a thwristiaid,” meddai wedyn.
“Pan wyt ti’n gorfod cau dy ddrysau a hithau’n ddiwrnod braf neis a ti’n gwybod y byddai yna lot o bobl yn troi fyny – mae o’n dorcalonnus.
“Ti’n gweld y drws ar gau a’r car park yn wag a dim llawer o bres yn dod i mewn – dydi o ddim yn neis, dydi o ddim yn neis o gwbl.
“Mae’r weledigaeth oedd gen ti’n wreiddiol – mae’r drws wedi cau yn dy wyneb di.
“… ac mae pawb yn colli allan.”