Ysbiwraig ifanc ydi prif gymeriad nofel newydd Jerry Hunter, Safana, a gyhoeddir yr wythnos yma. Mae’r nofel yn un gyffrous ac amserol ac yn “ddarllen hanfodol ar gyfer heddiw” yn ôl Gareth Evans-Jones, sy’n awdur, yn feirniad, ac yn ysgolhaig sy’n astudio caethwasiaeth. Meddai hefyd bod y nofel yn un “eithriadol rymus ac amserol. Ceir yma ymdriniaeth gelfydd ag agweddau amrywiol megis hanes ac anhanes, caethwasiaeth a rhyddid, a pherthynas yr unigolyn â’i gymdeithas.”
Meddai Jerry Hunter:
“Mae ochrau tywyll hanes yr Unol Daleithiau yn bethau dwi wastad wedi meddwl cryn dipyn amdanyn nhw. Yn debyg i gyfres Philip Pullman, His Dark Materials, mae Safana yn stori gyffrous wedi’i gosod mewn fersiwn gwahanol o’n byd ni. Mae hyn yn fodd i archwilio dylanwad crefyddol sefydliadol ar gymdeithas.”
Disgrifiwyd y nofel fel un ‘anhanes’ gan yr awdur, genre sy’n “ddrych i hanes mewn modd sy’n ein galluogi i weld ffeithiau hanesyddol go iawn mewn modd mwy eglur” yn ôl Jerry Hunter. Meddai:
“Er bod gen i nifer o brosiectau creadigol eraill yn mudlosgi, teimlais fod angen gorffen y nofel hon gan fod y stori’n cyd-fynd â’r awydd i archwilio hanes caethwasiaeth a ddaeth yn sgil mudiad Black Lives Matter. Mae’r nofel yn archwilio’r berthynas rhwng unigolion a’u cymdeithas, gan gynnwys agweddau moesol ar y berthynas honno. Mae’n gofyn a yw’n iawn defnyddio trais er mwyn cyrraedd nod o’r fath.”
Mae caethwasiaeth yn Georgia, Gogledd America, yn ystod y ddeunawfed ganrif hefyd yn llinyn storïol cryf – annhegwch gweithredoedd pobl fel George Whitefield, dyn ag oedd yn cefnogi caethwasiaeth, ac yn berchen ar blanhigfa ei hun a oedd yn cadw caethweision, ac yr oedd yr elw yn mynd i gadw cartref ar gyfer plant amddifad o bob hil, gan gynnwys o dras Affricanaidd fel y prif gymeriad. Mae’r nofel wedi’i chyflwyno i Stacey Abrams a Fair Fight Action, mudiad oedd yn ymladd yn erbyn atal pleidleisiau yn Georgia, gweithred a ysbrydolodd Jerry Hunter, meddai:
“Rwy wedi bod yn awyddus ysgrifennu rhywbeth am George Whitefield ers talwm iawn. Chwaraeodd rôl ofnadwy yng nghaethwasiaeth a hanes America, ond mae e dal i’w fawrygi mewn rhai cylchoedd. Bu arlywyddiaeth Donald Trump yn gyfnod eithriadol o dywyll yn hanes diweddar yr Unol Daleithiau, gydag agweddau hiliol asgell dde yn symud o gyrion gwleidyddiaeth i’r canol. Cafodd yr hen duedd hiliol i geisio rhwystro pobl Affrican-Americanaidd rhag defnyddio’u pleidleisiau ei gefnogi eto. Sefydlodd Stacey Abrams Fair Fight (neu Fair Fight Action) er mwyn ymladd yn erbyn yr ymdrechion hyn i atal pleidleisiau yn Georgia a bu hi a’i mudiad yn hynod lwyddiannus. Gwelwyd canlyniadau eu gwaith yn etholiad 2020 pan enillwyd Georgia gan Biden. Felly, bu’r gwaith hwn yn y Georgia go iawn yn ysbrydoliaeth i mi pan oeddwn i wrthi’n sgwennu nofel am ymdrechion i rwystro gormes mewn fersiwn ffuglennol o Georgia.”
Mae Grasi yn ferch amddifad o dras Affricanaidd. Cafodd ei chroesawu yng nghartref plant amddifad George Whitefield ar gyrion Savannah, a buan y gwelwyd ei bod hi’n ferch ryfeddol o alluog. Tyfodd i fod yn fenyw ifanc ddewr, yn un sy’n barod i wneud gwaith peryglus er mwyn sicrhau fod Georgia’n parhau’n dir rhydd. Wrth i’r gefnogaeth i’r drefn gaeth gryfhau, rhaid iddi hi a phawb sy’n gwasanaethu cyngor cyfrinachol Savannah fod yn barod i weithredu yn erbyn pobl fel Whitefield ei hun er mwyn rhwystro bwystfil caethwasiaeth.
Mae Safana gan Jerry Hunter ar gael nawr (£8.99, Y Lolfa).