Nôl i’r ysgol – i ddysgu am arwyr lleol?

Cyhoeddi pecyn addysg fel rhan o ŵyl rithiol ‘Yn ôl i Frynllidiart’; cyfle i blant Dyffryn Nantlle gael dod i adnabod Silyn, Mathonwy a Brynllidiart. Cofiwch am yr ŵyl: Dydd Sul, 28 Mawrth 2021

Ffion Eluned Owen
gan Ffion Eluned Owen

Ydych chi’n gwybod am y Llys Tywysogion Cymreig oedd ym Maladeulyn yng nghyfnod Owain Gwynedd? Yn ymwybodol bod aelodau cyntaf Band Pres Dyffryn Nantlle wedi teithio o gwmpas tai boneddigion Ynys Môn ar ddydd Nadolig yn y 1860au er mwyn casglu arian i brynu eu gwisgoedd? Beth am gystadleuwyr yn beicio o un pentref i’r llall er mwyn cystadlu mewn mwy nag un Eisteddfod ar yr un noson? Eich bod wedi gallu codi ticed trên i Lundain yn Nhal-y-sarn? Ac ydych chi wedi clywed am Idwal Jones, y peilot syrcas enwog ac arwr anghonfensiynol Tal-y-sarn yn y 1930au?

Wrth i’r plant ddychwelyd i’r ysgolion cynradd wythnos yma, a’r golygon yn troi unwaith yn rhagor at y Cwricwlwm newydd sydd ar droed, mae’n bwysig cofio bod Dyffryn Nantlle’r gorffennol yn llawn o hanesion unigryw, straeon difyr a phobl arbennig iawn. Mae dysgu am y rhai fu yma o’n blaenau ni, yn mynychu’r un ysgolion, yn cerdded yr un llwybrau, yn mwynhau’r un golygfeydd ysblennydd, yn rhan allweddol o unrhyw addysg.

Gyda hynny mewn cof, mae’r Orsaf yn falch o gyhoeddi pecyn gweithgareddau newydd sbon sy’n rhoi cyfle unigryw i blant y Dyffryn heddiw gael cofio, dathlu a dysgu am ddau brifardd lleol a fagwyd yn yr un tyddyn ar lethrau Cwm Silyn; Silyn a Mathonwy.

 

Pecyn Gweithgareddau

Mae’r pecyn lliw 15 tudalen – sydd ar gael fel dogfen PDF neu gyflwyniad PowerPoint – yn cyflwyno Silyn (1871-1930) a Mathonwy Hughes (1901-1999), ei nai, ac yn cael ei gyhoeddi fel rhan o ŵyl rithiol ‘Yn ôl i Frynllidiart’ a gynhelir ddiwedd mis Mawrth.

Mae’r pecyn yn cynnwys detholiad o gerddi Silyn a Mathonwy, lluniau, ffeithiau diddorol, cwis a llawer o weithgareddau amrywiol. Mae cyfle i blant gymharu dyddiau ysgol gydag amodau ganrif yn ôl, a dychmygu sut fydd amodau heddiw yn wahanol i’r dyfodol.

Roedd hi’n siwrne 3 milltir bob bore a phrynhawn i Silyn a Mathonwy o Frynllidiart i Ysgol Nebo. Arfonydd (Thomas Henry Griffiths) oedd y prifathro yng nghyfnod Mathonwy, a’r hogyn bach o Frynllidiart yn methu deall pam fod ei athro yn siarad Cymraeg gyda’i fam a phawb arall yn siop y pentref, ond Saesneg bron bob gair yn yr ysgol.

Y nod pennaf wrth gyhoeddi’r pecyn yw ysbrydoli cenhedlaeth newydd o blant y Dyffryn i ymddiddori yn hanes eu milltir sgwâr a dyrchafu rhai o’r bobl arbennig sy’n haeddu cael eu cofio a’u dathlu. Mae copi o’r pecyn eisoes wedi mynd i bob ysgol yn y dalgylch.

Dwy dudalen enghreifftiol o’r pecyn

 

Mae modd i unrhyw un, unrhyw le yn y byd i lawrlwytho fersiwn PDF neu fersiwn PowerPoint o’r pecyn yma: http://bit.ly/DropboxPecynGweithgareddau

 

Trwy fy ffenestr

‘Tu hwnt i Ddinas Dinlle tua’r gorllewin, y môr mawr yn troi’n aur a gwin hyd y gorwel awr ogoneddus yr ymachlud.’

Dyma ddisgrifiad Mathonwy o’r olygfa i un cyfeiriad o Frynllidiart a’r Cymffyrch. Yn y pecyn mae llun o’r olygfa honno y byddai hogia’ Brynllidiart wedi ei weld drwy un o ffenestri’r tyddyn dros gan mlynedd yn ddiweddarach.

Rydym ni eisiau gwybod beth sydd i’w weld drwy ffenestri plant Dyffryn Nantlle heddiw. Ewch i dudalen 7 yn y pecyn. Beth am dynnu llun? Ysgrifennu cerdd? Neu beth am ddisgrifiad neu stori? Byddwch yn greadigol ac anfonwch eich gwaith atom (gwion.yrorsaf@gmail.com) erbyn wythnos i heddiw, dydd Mercher, 24 Mawrth 2021 i gael ei gynnwys mewn cyflwyniad arbennig yn yr ŵyl rithiol.

“Tu hwnt i Ddinas Dinlle tua’r gorllewin…” Yr olygfa drwy un o ffenestri Brynllidiart heddiw

 

Gŵyl rithiol ‘Yn ôl i Frynllidiart’

Trefnir gŵyl rithiol ‘Yn ôl i Frynllidiart’, gan Yr Orsaf i ddathlu cyfraniadau Silyn a Mathonwy, a hynny 150 o flynyddoedd ers geni Silyn. Dyddiad yr ŵyl yw dydd Sul 28 Mawrth 2021 (Sul y Blodau), lle bydd plac coffa yn cael ei osod ar Frynllidiart, teithiau cerdded newydd yn cael eu rhannu a byddwn yn clywed plant Ysgol Nebo yn adrodd rhai o’r cerddi. Bydd dwy ddarlith fer ar Silyn a Mathonwy yn cael eu traddodi’n fyw dros Zoom gan Angharad Tomos a Ffion Eluned Owen, i gychwyn am 7pm. Bydd y digwyddiadau eraill yn cael eu lansio’n ddigidol yn ystod y diwrnod, gydag amserlen i ddilyn.

I gofrestru ar gyfer y sgwrs Zoom, cysylltwch â gwion.yrorsaf@gmail.com.