Ar drothwy 150 mlynedd ers geni’r prifardd a’r sosialydd R. ‘Silyn’ Roberts ym Mrynllidiart, Cwm Silyn, dyma gyhoeddi’r amserlen ar gyfer gŵyl rithiol ‘Yn ôl i Frynllidiart’, a gynhelir yfory, dydd Sul, 28 Mawrth 2021, i gofio cyfraniad Silyn a’i nai, y prifardd a’r newyddiadurwr Mathonwy Hughes.
Rhyddhau fideos ar DyffrynNantlle360
Bydd 3 fideo yn cael eu rhyddhau ar wefan DyffrynNantlle360 yn ystod y diwrnod:
11yb: Dadorchuddio Plac Coffa
Rydym ni’n edrych ymlaen yn eiddgar i weld y llechen goffa newydd i gofio Silyn a Mathonwy – yn rhithiol am y tro wrth gwrs.
1yp: Lansio Teithiau Cerdded ‘Llwybrau Dyffryn Nantlle’
Bydd gwib-fideo yn dangos y daith o Dalysarn i Frynllidiart er mwyn lansio gwefan newydd, Llwybrau Dyffryn Nantlle. Bwriad y wefan yw cynnig amrywiaeth o deithiau diwylliannol i’w dilyn o gwmpas y Dyffryn, gan rannu hanesion rhai o’r bobl, yr adeiladau a’r digwyddiadau a fu yma o’n blaenau ni. Bydd 3 taith ar gael i gychwyn, gyda mwy yn cael eu hychwanegu dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
3yp: Doniau Creadigol Ysgol Nebo
Fideo arbennig sy’n dangos cip ar y gwaith mae disgyblion Ysgol Nebo wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar wrth ddysgu am Silyn, Mathonwy a Brynllidiart. Byddai Silyn a Mathonwy eu hunain wrth eu boddau yn clywed plant Nebo heddiw yn darllen rhai o’u cerddi a’u geiriau.
Yn fyw ar Zoom
7yh: ‘Mathonwy’ gan Ffion Eluned Owen a ‘Silyn’ gan Angharad Tomos
Cysylltwch â gwion.yrorsaf@gmail.com i gofrestru ar gyfer y digwyddiad cyn gynted â phosibl os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hynny. Croeso i chi gysylltu hefyd os nad ydych chi’n defnyddio Zoom ac yn awyddus i gael copi o’r sgyrsiau maes o law.
Gobeithio y bydd modd i chi ymuno â ni!
Mwy o wybodaeth:
Mae mwy o wybodaeth am yr ŵyl i’w cael yn y straeon hyn: Yn ôl i Frynllidiart – DyffrynNantlle360 a Nôl i’r ysgol – i ddysgu am arwyr lleol? – DyffrynNantlle360
Gellid hefyd wrando ar Angharad Tomos a Ffion Eluned Owen yn siarad ar raglen Dei Tomos (24.03.21) yma: Dei Tomos – Cofio dau brifardd a aned yn yr un bwthyn – BBC Sounds
Roedd eitem ar raglen Heno S4C nos Iau 25.03.21: Clic | Heno | 25 Mawrth 2021 (s4c.cymru)