Toda Ogunbanwo yw Llywydd y Dydd Gŵyl AmGen

“Mae hiliaeth yn bodoli ac mae’n effeithio ar bobl ddu ar draws Cymru”, meddai.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
BBC - Gŵyl Amgen

Toda Ogunbanwo o Benygroes yw Llywydd y Dydd Gŵyl AmGen heddiw (dydd Gwener, Gorffennaf 31).

Mae’n 20 oed ac wedi byw ym Mhenygroes ers 13 mlynedd, mae bellach yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Brunel yn Llundain.

Yn ei araith fel Llywydd y Dydd diolchodd am y cyfle i gael siarad, ond pwysleisiodd fod yna bethau sydd angen eu trafod.

“[Dwi] wedi tyfu i fyny yn profi y diwylliant, y bobl, a’r system addysg yn yr ardal yma”, meddai.

“Dwi wedi tyfu i garu’r wlad yma, ac mae’r bobl yn agos i fy nghalon.

“Ond yn ddiweddar mae yna ddigwyddiadau wedi bod sydd angen i ni eu trafod.

“Mae hiliaeth yn bodoli ac mae’n effeithio ar bobl ddu ar draws Cymru. Bysa hi’n anghyfrifol i mi beidio siarad am yr amseroedd hyn ar blatfform mor fawr â’r ŵyl hon.”

Graffiti hiliol

Fis Mehefin cafodd graffiti hiliol ei baentio ar garej teulu Toda Ogunbanwo.

“Dwi’n siŵr bod rhai ohonoch chi wedi clywed am be’ ddigwyddodd i fy nhŷ rhyw fis yn ôl”, meddai.

“Gwnaeth rhywun o’r pentref dwi wedi byw ynddo, dysgu ynddo, a’i alw’n adra am bron iawn i dair blynedd ar ddeg, ddewis peintio swastika ar ddrws garej ein tŷ ni.

“Wrth i’r diwrnod fynd yn ei flaen wnes i gychwyn sylweddoli be’ yn union oedd wedi digwydd.

“Mae’n anhygoel o drist bod rhywun yn 2020 yn teimlo ddigon cyfforddus i wneud hyn o gwbl. Anaml iawn dwi’n labelu pethau yn hiliol ond dydi o ddim yn gyd-digwyddiad ‘na ni ydi’r unig deulu du yn hanes Penygroes, a ni ydi’r unig deulu efo swastika ar ein garej ni.

‘Mae pobl ddu wedi cyfrannu, siapio ac ychwanegu gwerth i’r wlad hon’

“Mae pobl ddu wedi cyfrannu, siapio ac ychwanegu gwerth i’r wlad hon ac yn parhau i wneud hynny heddiw. Mae Cymru wedi chwarae rhan fawr yn y masnach gaethweision traws-Atlantig yn y gorffennol.

“Mi wnaeth y teulu Pennant dalu am adeiladu Castell Penrhyn gyda gwaith caethweision yn Jamaica. Roedd cynnyrch y ffatri gopr yn Nhreffynnon yn cael eu defnyddio i brynu caethweision yn ngorllewin Affrica. Mi oedd ystad Pennant yn berchen ar bron 1000 o gaethweision ar draws pedair planhigfa erbyn 1805.

“Dyma’r hanes dydan ni ddim yn ei ddysgu yn yr ysgol. Pe bai plant yn gwybod y cysylltiadau blaenorol rhwng eu gwlad nhw a gwledydd Affrica, rwy’n siŵr y byddent yn fwy meddylgar o ran defnyddio iaith hiliol.”

‘Arwydd o’r gwaith sydd angen i’w wneud’

“Mae ardaloedd fel gogledd Cymru yn hoffi meddwl nad ydi hilaeth yn bodoli yma, ond dwi’n drist i ddweud wrthych chi heddiw ei fod o. Mae’r arwydd casineb ar ein garej ni yn enghraifft gyhoeddus iawn o’r gwaith sydd angen i’w wneud yma.

“Rwy’n credu os bydd pobl yn dysgu am ddiwylliannau a hanesion gwahanol i’w rhai eu hunain, fel y gwnes i am Gymru, mi fydd yn rhoi sylfaen llawer iachach i ni uno o’i amgylch. Nid er mwyn i ni gyd fod yr un peth, ond er mwyn gwybod am wahaniaethau pobl a derbyn a dathlu ein gilydd o’u herwydd nhw, gan ddechrau gyda rhywbeth mor fach â gwên.

“Hoffwn i weld y diwrnod lle geith unrhyw leiafrif symud i ogledd Cymru a theimlo y ca’n nhw groeso a chefnogaeth yma.”

Gwyliwch araith Toda Ogunbanwo yma:

Llywydd y Dydd: Toda Ogunbanwo

"Ma' cwffio a sefyll i fyny dros dy hun yn mynd yn anoddach pan wyt ti yn un person gwahanol mewn 500."Anerchiad Toda Ogunbanwo o Benygroes, Gwynedd, sef Llywydd Dydd Gwener yr Ŵyl AmGen.

Posted by BBC Radio Cymru on Friday, 31 July 2020

 

Dweud eich dweud