Helo
Fy enw i yw Begw Elain a dwi’n bymtheg ac yn mlwyddyn deg yn Ysgol Brynrefail.
Dwi wedi bod yn gweithio adre ers tua deg wythnos dda rwan a dwi ddim wedi darganfod ddim byd anodd diolch byth (ar y funud)
Mae bob dydd yn wahanol I weithio adre gyda bob awr yn newid ar y newyddion, felly mae hi yn wir yn anodd ambell waith.Dwi am ceisio rhannu bach o tips efo chi heddiw am sut dwi yn ffeindio gweithio adref yn lwyddiannus.
1.Peidiwch a cynllunio gormod-gallwch chi wneud rhestr o dagsau I ei chyflawni ond peidiwch a gorfodi eich hunain I weithio trwy dydd,bob dydd.
2.Mae sefyllfa gweithio adref yn anodd I bawb felly ddylsech chi gyntaf darganfod lleoliad I weithio sydd yn gyfforddus ac yn glir o eich ffôn er mwyn gweithio.
3.Peidiwch a rhoi ffidl yn y to ar ôl methu neud un tasg-cerwch ar wefanau fel BBc Biteseize,Tanio.com a llawer mwy.Mae dysgu eich hun yn anodd felly peidiwch a rhoid pwysau arnoch chi eich hunain.
4.Byddwch yn glen gyda eich hunain,cymerwch egwyl,cerwch allan I’r ardd am ginio a ddim eistedd o flaen laptop. trwy’r dydd!
5.Gnewch y gwaith unwaith pryd fyddai wedi gael eu osod,peidiwch a neud gwaith oherwydd dydy eich ffrindiau ddim yn neud gwaith.
6.Cymerwch yr amser I ddal fyny efo pwnc os rydych ddim yn teimlo yn gyfforddus ynddo cyn i’r lockdown.
7.Gofynnwch am help o hyd gan athrawon,mae nhw yno I helpu ac o hyd eisiau helpu,felly peidiwch a gyda cwilydd o gofyn am gyngor.
8.Ceisiwch drio galetach adre er mwyn llwyddo gan fod ganddoch fwy o lonydd.
9.Trefnwch mynd ar ffon gyda eich ffrindiau ar ol neu cyn neud gwaith,trafodwch gyda eich ffrindiau os rydych eisiau help.
10-Peidiwch a teimlo ddrwg o ddim eistedd ar sgrin laptop o naw tan dri fel diwrnod Ysgol arferol,cynlluniwch eich diwrnodau ar sut rydych chi yn teimlo.
Mae gweithio adref a dysgu ein hunain yn rhywbeth wnewn ni fyth anghofio,mae hi yn her newydd ac yn brofiad newydd.Dysgwch mwy o bethau eraill tra rydych adre hefyd fel coginio a diddordebau eraill.Ond plis peidiwch a gadael gwaith Ysgol lifo allan o rheolaeth,byddwch yn drefnus a wastad mewn cysylltiad gyda’ch athrawon.
Ceisiwch fwynhau gweithio adref,rhowch dillad gyfforddus ar I weithio a sicrhewch eich fod wastad yn mynd am dro er mwyn gael awyr iach ar ôl cwblhau ychydig o waith!
Nid fyswn I gallu diolch digon I athrawon Brynrefail,rydych chi wedi bod yn anhygoel!!
Fydd hi yn teimlo yn rhyfedd fynd nol I’r Ysgol I bawb ond ar y funud mwynhewch gweithio adre a wastad byddwch yn agored os rydych ddim yn deall rhywbeth.
Arhoswch yn saff
Diolch yn fawr
Begw Elain