Swydd newydd yn Yr Orsaf

greta
gan greta

Mae Siop Griffiths Cyf yn chwilio am rywun i ymuno â’r tîm er mwyn cydlynu cynllun newydd sef Cynllun Trafnidiaeth Cymunedol Dyffryn Nantlle.

Bydd y swydd yn cynnwys nifer o gyfrifoldebau gan gynnwys ateb ymholiadau ar y ffôn ac wrth y ddesg, trefnu amserlen teithiau (22 y flwyddyn) a chwilio am yrrwyr gwirfoddol, a threfnu archwiliadau DBS i enwi rhai.

Cyflogwr: Siop Griffiths Cyf
Oriau: 15 awr yr wythnos
Lleoliad: Penygroes
Cyflog: £10 yr awr
Gwyliau: 25 diwrnod y flwyddyn pro rata
Cytundeb: 1 flwyddyn

Dyddiad cau: 14/02/2020 (hanner dydd).

Gellir gweld yr hysbyseb swydd llawn ar wefan lleol.net neu am y fwy o fanylion cysylltwch â Greta ar: greta@yrorsaf.cymru neu 07410 982467.

Cais trwy llythyr (dim mwy na 2 tudalen) a CV. Dychwelyd i Greta Jâms, Yr Orsaf, Muriau, Heol Y Dŵr, Penygroes LL54 6LP.