Fe fydd protest yn erbyn y penderfyniad i gau Ffatri Bapur Penygroes yn cael ei chynnal ger Ffatri Northwood Hygine Products am 3:30 brynhawn dydd Iau (Mehefin 11).
Gofynir i bobol sydd am ddangos cefnogaeth i weithwyr sydd wedi colli ei swyddi yn y ffatri i ddilyn rheolau pellter cymdeithasol.
Daeth cyhoeddiad ar Fai 26 y byddai’r ffatri yn Nyffryn Nantlle, sy’n cyflogi 94 o bobol, yn cau o ganlyniad i “gwymp sylweddol mewn gwerthiant” yn sgil y coronafeirws.
Mae bellach bron i 2,000 o bobol wedi arwyddo’r deiseb yn galw ar y cwmni i ailystyried ei penderfyniad.
Cyfarfod gwleidyddion â’r ffatri
Mewn cyfarfod ddoe (dydd Llun, Mehefin 8) rhwng gwleidyddion Plaid Cymru a rheolwyr y cwmni, pwysleisiodd y gwleidyddion eu bod nhw’n barod i gefnogi’r cwmni.
Dywed y rheolwyr fod rhaid iddyn nhw gyflwyno mesurau i sefydlogi’r cwmni, sy’n cyflogi 650 o weithwyr ar nifer o safleoedd yn Lloegr hefyd.
Mae cyfnod ymgynghori i’r gweithwyr eisoes wedi dechrau, ac fe fydd protest yn erbyn y penderfyniad i gau yn cael ei chynnal ddydd Iau (Mehefin 11).
“Wedi dyddiau o geisio cyfarfod, o’r diwedd, dyma gyfle i bobl eistedd o gwmpas y bwrdd rhithiol a dechrau ar y dasg o glywed y manylion o lygad y ffynnon,” meddai Judith Humphreys, Cynghorydd Plaid Cymru dros Benygroes.
Mae Gareth Thomas, y cynghorydd sydd â chyfrifoldeb dros yr economi yng Ngwynedd, yn dweud mai “ein blaenoriaeth fydd diogelu’r sgiliau a’r safonau sydd gan y gweithwyr yma yng Ngwynedd, a hynny mewn cyfnod lle mae’r economi eisoes yn fregus o ganlyniad i Covid-19”.
Dywed Aelod o’r Senedd Arfon Siân Gwenllian a’r Aelod Seneddol lleol Hywel Williams eu bod wedi ei gwneud hi’n “glir mai’r ffactor pwysicaf yn y trafodaethau hyn yw diogelu swyddi’r staff a’u bywoliaeth” yn y cyfarfod rhithiwr.
“Rhaid cadw pob opsiwn i ddiogelu’r safle ar y bwrdd, a rhaid i Lywodraeth Cymru ddyblu ymdrechion i flaenoriaethu sgyrsiau i ddod o hyd i atebion,” meddai’r ddau ar ran Plaid Cymru.
“Rydym yn gweithio’n adeiladol ar draws pob lefel o lywodraeth leol a chenedlaethol i gadw’r swyddi hyn ar y safle ym Mhenygroes.”