Prosiect Treftadaeth Ddisylw?

Yn gweithio gyda pobol ifanc Dyffryn Nantlle.

gan Jade Owen

Pobl ifanc prosiect Treftadaeth Ddisylw

‘Treftadaeth Ddisylw?’ yw’r enw a rhoddir i raglen o weithgareddau archaeoleg gymunedol sydd wedi’i gynllunio i ymgysylltu, ennyn brwdfrydedd ac ysbrydoli pobl ifanc ledled Cymru i gymryd rhan yn eu treftadaeth leol.

Ers 2017 mae prosiect ‘Treftadaeth Ddisylw? Animeiddio Dyffryn Nantlle’, ac arweinwyr gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc yr ardal er mwyn ehangu eu dealltwriaeth am hanes diwydiant llechi’r dyffryn. Drwy gydol y prosiect mae’r bobl ifanc wedi derbyn cyfleoedd a datblygu sgiliau newydd sydd wedi’i galluogi i ymchwilio, dysgu a phortreadu treftadaeth ddiwydiannol eu bro mewn ffyrdd diddorol a newydd.

Y prif waith mae’r grŵp wedi bod yn arwain yw prosiect creu ap realiti estynedig (augmented reality) a fydd yn adrodd hanesion chwarelyddol Dyffryn Nantlle. Drwy wneud gwaith ymchwil dewiswyd pobl ifanc y prosiect wyth o straeon i’w gynnwys yn yr ap. Fydd y storiâu wedi ei selio ar ffeithiau, ond fydd pob un yn cael ei adrodd o bersbectif person ifanc – llais sydd yn aml yn cael ei fethu wrth ystyried hanes diwydiant llechi Gogledd Cymru. Gan ddefnyddio realiti estynedig  fydd pobl ifanc y prosiect yn dod a’r hanesion maent wedi dewis yn fyw drwy bortreadu cymeriad o fewn yr ap ac yn adrodd eu stori. Fydd felly yn bosib i ddefnyddwyr dim ond darllen hanes y chwareli ond hefyd gwylio person ifanc yn eu hymadrodd. Fydd yr ap wedi’i leoli yn Chwarel Dorothea, a fydd yn tywys defnyddwyr amgylch llwybr cyhoeddus y safle lle mewn wyth pwynt nodedig fyddent yn gallu gweld a chlywed yr hanes.

Mae’r prosiect nawr ar eu blwyddyn ddiwethaf ac mae digon o weithgareddau i ddod gan gynnwys gwaith celf, teithiau cerdded ac arddangosfa!

Dyma fideo sydd wedi ei chreu gyda rhai o bobl ifanc yr ardal, sydd yn ymwneud gyda’r prosiect

Am unrhyw wybodaeth pellach am y prosiect plis cysylltwch ag Jade Owen jade.owen@heneb.co.uk