Cerddor o Fethel yn Arfon ydi Gwilym. Mae wedi bod yn hogi ei grefft ar lwyfannau ers ei arddegau a bellach mae’n un o gantorion gwerin amlycaf Cymru.
Mae ei gerddoriaeth yn gymysgedd o’r hen a’r newydd, yn arbrofi gyda hen eiriau ac alawon ac yn eu cymysgu gyda’i gerddoriaeth ffres ac egnïol ei hun.
Fe enillodd y wobr am yr ‘artist unigol gorau’ yng Ngwobrau gwerin Cymru yn 2019 ac mae wedi perfformio ei gerddoriaeth dros y byd.
Braf felly fydd croesawu Gwilym i Ddyffryn Nantlle ddiwedd mis Chwefror i berfformio yn Yr Orsaf ym Mhenygroes. Mae’n argoeli i fod yn noson wych, gyda gwledd i’r synhwyrau.
“Cerddor sy’n prysur fynd yn drysor cenedlaethol” – Tudur Huws Jones, Y Cymro.
Tocynnau ar werth yn Yr Orsaf neu gallwch ffonio ar 07410 982467 neu e-bostio: post@yrorsaf.cymru.