O ganlyniad i gwymp sylweddol mewn gwerthiant oherwydd y coronafeirws mae cwmni Northwood Hygiene Products wedi cadarnhau bydd ei ffatri ym Mhenygroes sy’n cyflogi 94 o bobol yn cau ddiwedd yr wythnos.
Mewn datganiad, mae Northwood Hygiene Products yn dweud bod y dewis i gau’r ffatri sy’n cynhyrchu papur tŷ bach wedi ei wneud yn dilyn adolygiad.
“Fel rhan o adolygiad strategol o weithrediadau busnes, a gan ystyried bod y farchnad yn newid yn gyflym, mae cyfarwyddwyr Northwood Hygiene Products yn siomedig i gyhoeddi ein bod yn bwriadu cau ein ffatri ym Mhenygroes,” meddai.
“Y gostyngiad yn y galw o ganlyniad i Covid-19, a’r cwymp sylweddol mewn gwerthiant rydym yn ei ragweld oherwydd hyn sydd wedi ein gorfodi i wneud y penderfyniad anodd hwn.
“Mae’r cwmni wedi ymrwymo’n llwyr i ddilyn proses ymgynghori gyda’r holl weithwyr ac undebau – bydd y broses ymgynghori yn para am o leiaf 30 diwrnod.”
Yn ogystal â Phenygroes mae gan gwmni Northwood Hygiene Products ffatrïoedd yn Telford, Oldham, Birmingham, Lancaster a Bromsgrove – ond yn dilyn yr adolygiad ffatri Penygroes yw’r unig ffatri fydd yn cau.
‘Ergyd drom’
Dywedodd y Cynghorydd Judith Humphreys, yr aelod lleol dros Benygroes: “Mae cyhoeddiad heddiw gan gwmni Northwood yn ergyd drom i Benygroes ac i ardal Dyffryn Nantlle yn ehangach. Rydw i’n meddwl am yr holl staff a’u teuluoedd ar yr adeg anodd yma.
“Rydw i eisoes wedi siarad gyda swyddfa’r Aelod Seneddol a’r Aelod o’r Senedd a gyda Phennaeth Adran Datblygu Economaidd Cyngor Gwynedd – byddaf yn gweithio gyda hwy, ac awdurdodau eraill, i gefnogi’r staff ym mhob ffordd bosib ac i wneud pob ymdrech i adnabod y ffordd ymlaen.”
Cefnogi’r gweithlu lleol
Ategwyd yr un neges gan Aelod Cabinet Economi Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Gareth Thomas: “Mae’r cyhoeddiad yma yn amlwg yn fater o bryder.
“Mae Northwood wedi bod yn gyflogwr o bwys yn yr ardal yma o’r sir ers blynyddoedd, a byddai colli 94 o swyddi yn ergyd sylweddol i’r ardal.
“Mewn cydweithrediad gyda Llywodraeth Cymru ac adran DWP byddwn yn cyfarfod gyda’r cwmni dros y dyddiau nesaf i ystyried y ffordd orau i gefnogi’r gweithlu lleol yn ystod y cyfnod anodd yma.”