Derbyn grant dros hanner miliwn o bunnoedd i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn y Dyffryn

Siop Griffiths, Penygroes yw un o’r partneriaid cymunedol sy’n rhan o’r prosiect cyffrous newydd.  

greta
gan greta
GwyrddNi

Credyd: Geraint Thomas, Panorama

Yr wythnos hon, cyhoeddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fod cymunedau yng Ngwynedd wedi llwyddo i dderbyn grant o £562,315 gan y Gronfa Gweithredu Hinsawdd sy’n eu galluogi i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

 

Datblygiadau Egni Gwledig sy’n arwain y prosiect gan gyd-weithio’n agos â 5 sefydliad cymunedol yng Ngwynedd, sef: Cyd Ynni, Partneriaieth Ogwen, Siop Griffiths, Cwmni Bro Ffestiniog ac YnNi Llŷn. 

 

Bydd y prosiect, GwyrddNi, yn canolbwyntio ar ddatblygu cynlluniau gweithredu ar yr hinsawdd ac yn galluogi’r grwpiau cymunedol i gyd-weithio’n agos â phobl y gymuned gan roi cyfle iddynt drafod a gweithredu mewn modd sy’n gweithio iddyn nhw. 

 

Dywedodd Greta Jâms o Siop Griffiths, Penygroes: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Loteri Genedlaethol am ein galluogi i ddatblygu’r prosiect hwn ac rydym yn edrych ymlaen i weld y gwaith yn cychwyn yn ein cymuned, gan obeithio taclo’r her o newid hinsawdd.”