Dafydd Buckley Roberts yn ymuno i’r Fêl -Nantlle Vale

CPD NANTLLE VALE

Begw Elain
gan Begw Elain

‪‼️Chwaraewr newydd yn ymuno i’r Vale‼️‬

‪⚽️?Dafydd Buckley Roberts yn ymuno gyda’r clwb.?⚽️‬

‪Dafydd yn amddiffynwr 17 oed sydd wedi cael tymor llwyddianus iawn y tymor diwethaf gyda Pwllheli. Cafodd Dafydd ei ryddhau o academi Wrexham yn 16 oed.‬

‪?Mae wedi cynrychioli Ysgolion Cymru a Colegau Cymru y tymor diwethaf.?‬

‪Gair gan Dan‬

‪”Mae’n braf cael chwaraewr ifanc sydd mor frwdfrydig am chwarae pel-droed i dîm oedolion. Dafydd wedi penderfynu ymuno er ei fod wedi cael cynnigion gan glybiau uwch fyny y pyramid. Mae o yn edrych i chwarae bob wythnos er mwyn datblygu, da ni yn gobeithio gallu cynnig sylfaen gadarn i Dafydd allu datblygu dros tymor neu ddwy. Yn dilyn hyn os ydi Dafydd yn perfformio, bydd hi’n anodd iawn ei gadw gan fydd clybiau o’r WPL yn edrych i’w arwyddo. Eto cael Dafydd i mewn yn cadarnhau ein bwriad i wthio ymlaen tymor yma.”‬

‪⚪️Yn sicr chwaraewr i wylio allan amdano yn y dyfodol. ?‬

‪Croeso i’r clwb Dafydd ?‬

‪#cmonyfêl ‬