Cymuned Dyffryn Nantlle yn galw am gefnogaeth

Cau ffatri Northwood Hygiene Products ym Mhenygroes gan roi 94 o swyddi yn y fantol.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Llun o dudalen Change.org Phil Williams

Mewn ymateb i’r “newyddion trychinebus” bod ffatri ym Mhenygroes yn cau ei drysau ddiwedd yr wythnos mae cymuned Dyffryn Nantlle wedi dod ynghyd i gefnogi ei gilydd, ac wedi galw am gymorth gan wleidyddion.

Daeth cadarnhad ddoe byddai ffatri Northwood Hygiene Products sy’n cynhyrchu papur tŷ bach, ac yn cyflogi 94 o bobol, yn cau.

Yn ôl Northwood Hygiene Products, “Y gostyngiad yn y galw o ganlyniad i Covid-19, a’r cwymp sylweddol mewn gwerthiant rydym yn ei ragweld oherwydd hyn sydd wedi ein gorfodi i wneud y penderfyniad anodd hwn.”

Er hyn mae Phil Williams sydd yn byw yn lleol, ac sydd wedi creu deiseb yn galw ar y cwmni i ailystyried, wedi dweud wrth golwg360 fod y galw mewn gwirionedd wedi cynyddu, a bod nifer o loriau sydd yn cludo nwyddau o’r ffatri wedi dyblu dros y wythnosau diwethaf.

Eglurodd: “Ar ddechrau’r pandemig yma saethodd y galw am bapur tŷ bach i fyny, a dwi’n gwybod i’r gweithwyr orfod gweithio oriau ychwanegol i ateb y galw yna. Does dim esgus i’w trin nhw fel hyn.

“Mae’r ysbryd cymunedol yn Nyffryn Nantlle yn anhygoel, mae pawb yn un teulu mawr.

“Mae’n newyddion trychinebus. Byddai cau’r ffatri yn ergyd enfawr i Ddyffryn Nantlle gan bod dim byd i’r gweithwyr gwympo nôl ar.

“Mae rhaid i ni gwffio, a dal i ymladd y peth a dyna ydy diben y ddeiseb – dylai neb orfod wynebu’r helynt fel hyn yng nghanol y cyfnod ansicr yma.”

Mae bellach dros 1,000 o bobol wedi arwyddo’r ddeiseb.

Colli taliad diswyddo

Mae golwg360 wedi siarad â gweithwyr a phobol yn Nyffryn Nantlle sydd wedi eu heffeithio gan y dewis i gau’r ffatri.

Yn ôl nhw mae Northwood Hygiene Products wedi gofyn i’w gweithwyr i beidio â siarad â’r wasg, a byddai gwneud hynny yn peryglu eu taliad diswyddo.

Eglurodd un o weithwyr y ffatri, nad oedd am gael ei enwi, ei fod yn wynebu dyfodol ansicr. Tra i berson arall ddweud y byddai’r dewis i gau’r ffatri yn effeithio’n ddifrifol ar y teulu, ac y byddai’r effaith hefyd i’w deimlo gan ddegau o deuluoedd ar draws yr ardal.

Mae undeb Unite, sy’n cynrychioli dros 40 o weithwyr y ffatri, wedi galw ar Northwood Hygiene Products i ddefnyddio cynllun diogelu swyddi y Llywodraeth.

Mae’r undeb ar ddeall bod hanner gweithwyr y ffatri eisoes ar y cynllun ffyrlo hwn, ac yn dadlau y gallai cefnogaeth o’r fath alluogi’r cwmni i weld i ba raddau y bydd yr economi’n adfer wedi’r cyfyngiadau.

Dywedodd swyddog rhanbarthol Unite, Daryl Williams: “Mae’r cyhoeddiad hwn yn bradychu’r gweithlu ffyddlon a medrus, a byddai’n ergyd enfawr i economi leol Dyffryn Nantlle.

“Mae cynllun cadw swyddi’r Llywodraeth wedi ei greu er mwyn atal diswyddiadau diangen yn ystod yr argyfwng hwn. Dylai Northwood aros cyn gwneud unrhyw benderfyniadau am y ffatri er mwyn cael darlun cliriach o’r sefyllfa economaidd ar ôl i’r cloi ddod i ben”

Galw am gyfarfod brys

Mewn ymateb i’r sefyllfa mae Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams ac Aelod Senedd Cymru Siân Gwenllian wedi galw am gyfarfod brys gyda Llywodraeth Cymru a Rheolwr Gyfarwyddwr Northwood Hygiene.

Mewn llythyr dywedodd y ddau eu bod nhw’n siomedig iawn o glywed am y cynlluniau i gau’r ffatri, a hynny er gwaethaf bod y staff yn ddiweddar wedi gorfod gweithio oriau hir i gyrraedd galw cynyddol.

“Rydym hefyd yn gwybod bod y ffatri’n brysur iawn ar ddechrau’r cyfnod argyfwng yma gyda lefelau archeb digynsail a staff ar safle Penygroes yn gweithio oriau hir i fodloni’r galw.

“Rydyn ni’n ei chael hi’n anodd deall felly pam fod penderfyniad mor bellgyrhaeddol ac emosiynol a hyn wedi’i wneud ar adeg mor ansicr a phan mae’r darlun economaidd yn parhau i fod yn aneglur.”

“Bydd yn anodd dod o hyd i waith newydd a bydd dros naw deg o deuluoedd lleol yn wynebu gostyngiad yn eu hincwm.’

“Mae’n ddyletswydd ar Northwood Hygiene i esbonio’r rhesymau y tu ôl i’r penderfyniad hwn.

“Rhaid gwneud pob ymdrech i amddiffyn y gweithlu medrus ym Mhenygroes, pan fo rhai ohonynt wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth i’r cwmni.”