Mae Bragdy Lleu wedi ymateb i gynlluniau Llywodraeth San Steffan i fwrw ymlaen gyda’u bwriad o ddiwygio’r ffordd maent yn cael eu trethu.
Gall y diwygiadau hyn fod yr “hoelen olaf yn arch” llawer o fragdai bychain, annibynnol, yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts.
Mae’r bwriad dadleuol i dorri Rhyddhad Treth Bragdai Bychain wedi ei feirniadu yn llym gan gyfarwyddwr Bragdy Lleu, Robat Jones wrth iddo ddatgan “mai ddigon anodd i ni fel mae hi.”
“Goblygiadau difrifol i fragdai bychain”
Mae’r Rhyddhad Treth Bragdai Bychain, yn caniatáu gostyngiad o 50% ar dreth gwrw i fragdai sy’n cynhyrchu llai na 5,000 hectolitr (880,000 peint) y flwyddyn.
Bwriad Canghellor y Deyrnas Unedig, Rushi Sunak, yw gostwng hynny o 5,000 hectolitr i 2,100 hectolitr.
“Ers ei gyflwyno yn 2002, mae’r Rhyddhad Treth Bragdai Bychain wedi caniatáu i Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig ddatblygu sector bragdai crefft ffyniannus o’r safon uchaf, sy’n cefnogi tua 6,000 o weithwyr llawn-amser gan gyfrannu rhyw £270 miliwn i GDP y Deyrnas Unedig,” meddai Ms Saville Roberts.
Dywedodd fod hynny wedi arwain at “gryfhau ansawdd ac amrywiaeth diwydiant diodydd Cymru.”
“Bydd gan ddiwygiadau treth mor llym â’r rhai a gynigir oblygiadau difrifol i fragdai bychain annibynnol yn f’etholaeth ac yn wir ym mhob cwr o Gymru,” meddai.
“Gallai torri’r gefnogaeth hanfodol hon yn awr, pan fo cymaint o ansicrwydd yn yr economi, roi’r farwol lawer o i fragdai bychain annibynnol ledled Cymru. Rwy’n annog y llywodraeth i ailfeddwl.”
“Goblyn o hit i bobl fatha ni”
“Mai ddigon anodd i ni fel mae hi,” meddai cyfarwyddwr Bragdy Lleu, Robat Jones.
“Y ddadl ydi bod 80% o fragdai ddim am gael eu heffeithio ond pan ti’n sbïo arnom ni a bragdai lleol eraill, sydd yn trio tyfu busnes i greu cyflogaeth a thrio cymryd sleisen o dwristiaeth a chadw fo i berchnogaeth leol – mae o’n goblyn o hit i bobl fatha ni.”
Mae Bragdy Lleu, sy’n cynhyrchu cwrw crefft yn y Dyffryn yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr ers sefydlu yn 2013.
Fodd bynnag, eglurodd y cyfarwyddwr bod ganddynt gynlluniau i ehangu gan gychwyn cyflogi staff flwyddyn nesaf. Yn sgil y pandemig, Brexit, a’r codiad treth, mae hynny bellach yn y fantol.
“Mae amseru’r peth yn ofnadwy o wael,” meddai, “’da ni mewn cysylltiad hefo lot o fragdai ar hyd a lled Prydain a ma’ lot ohonyn nhw wedi rhoi’r ffidl yn y to yn barod hefo’r busnes Covid ac mae o’n mynd i ladd lot fwy o fragdai.”