Mae Begw Elain, o Ddyffryn Nantlle sy’n ddisgybl yn blwyddyn 11 Ysgol Brynrefail, wedi bod yn trafod y syniad o ganslo arholiadau TGAU’r haf nesa’.
Mewn sgwrs gyda golwg360, dywedodd Begw Elain bod hi’n gyfnod ansicr iddi hi a’i ffrindiau a bod angen cyhoeddi penderfyniad swyddogol cyn gynted â phosib.
Daw’r drafodaeth ar ôl i gorff Cymwysterau Cymru argymell peidio cael arholiadau TGAU’r flwyddyn nesaf – ond asesu disgyblion ar waith cwrs ac asesiadau o fewn yr ysgol.
“Dw i jyst ddim yn meddwl bod o’n bosib”
“Yn y dechrau, roeddwn i isio cynnal yr arholiadau,” meddai, “achos ma’ pawb wedi bod drwy’r cyfnod stydio ac wedi gweithio mor galed. Ond o sbïo rŵan, rydan ni wedi colli chwe mis o ysgol a dw i jyst ddim yn meddwl bod o’n bosib.”
Mae Begw Elain o’r farn mai gwell fyddai canslo’r arholiadau o dan yr amgylchiadau, ond hefyd yn teimlo ei bod hi’n colli allan.
“Mae’r athrawon yn ‘nabod ni ac yn gwybod gallu ni”
Mae disgyblion Ysgol Brynrefail yn cael eu hasesu yn wythnosol, yn ôl Begw Elain.
“Mi rydan ni’n cael tasg asesu bob wythnos, ac mae o mor stressful! Mewn tair wythnos mae gen i 11 mock – un i bob pwnc.”
Er hynny, dywedodd bod y profion yn darparu math o rwyd diogelwch ac yn helpu.
“Dw i’n gobeithio byddan nhw’n gwneud ‘wbath hefo’r tasgau asesu ‘ma oherwydd mae’r athrawon yn ‘nabod ni ac yn gwybod gallu ni.”
“Mae o’n poeni fi”
Wrth drafod yr ansicrwydd ynghylch yr arholiadau TGAU, fe ddywedodd Begw Elain: “Mae o’n poeni fi a dw i’n meddwl bod o’n wbath ‘ma pawb yn yr ysgol yn poeni am.
“Dylia nhw fod wedi bod yn cyhoeddi penderfyniad misoedd yn ôl.”
Mae disgwyl i’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wneud cyhoeddiad swyddogol ynglŷn â’r mater ar Dachwedd 10.
Mae modd darllen mwy o ymatebion gan Brif Athrawon, undebau a disgyblion eraill yma.