Y band Kim Hon o Ddyffryn Nantlle enillodd gwobr Band neu Artist Newydd Gorau yn Gwobrau’r Selar yn Aberystwyth dros y penwythnos.
Iwan Fôn, Cai Gruffydd, Iwan Llyr, Siôn Gwyn a Caleb Rhys yw aelodau’r band, a dros y flwyddyn diwethaf maen nhw wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth ar Label Libertino.
Band neu Artist Newydd Gorau #gwobraurselar, noddwyd gan @HorizonsCymru, yw…@KIMHON420 ? Llongyfs! pic.twitter.com/lGkPwB50P9
— Y Selar (@Y_Selar) February 15, 2020
Enillwyr Gwobrau’r Selar 2020
Cafodd 13 o wobrau eu dyfarnu dros y penwythnos.
Y band Gwilym o Wynedd a Môn oedd prif enillwyr Gwobrau’r Selar, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol.
Enillon nhw dair gwobr i gyd, sef gwobr y Gân Orau (\Neidia/), y Fideo Gorau (Gwalia) a gwobr y Band Gorau.
Fleur De Lys gipiodd y wobr am y Record Hir Orau (O Mi Awn am Dro), a Papur Wal enillodd yn y categori Record Fer Orau (Lle yn y Byd Mae Hyn?).
Elis Derby ddaeth i’r brig fel Artist Unigol Gorau’r flwyddyn, a Tafwyl yn cipio’r wobr am y Digwyddiad Byw Gorau.
Clwb Ifor Bach gafodd ei enwi’n Hyrwyddwr Annibynnol Gorau.
Darllenwch fwy am benwythnos Gwobrau’r Selar ar BroAber360: