Ballet Cymru yn cydweithio gyda Ysgol Llanllyfni

Disgyblion yn creu lluniau gyda Carl Chapple.

Ysgol Llanllyfni
gan Ysgol Llanllyfni

Ym Mis Tachwedd 2019 cyrhaeddodd Ballet Cymru i Ysgol Llanllyfni i ddysgu’r plant sut i ddawnsio. Roeddent yn dawnsio gyda’r ysgol er mwyn perfformio yn Pontio, Bangor.

 Roedd bawb yn yr ysgol yn mor hapus gan ddawnsio yn Pontio. Ar ôl gorffen perfformio a chael swper gawsom fynd i wylio’r cwmni yn perfformio Tripple Bill sef tri pherfformiad gwahanol. 

Daeth Ballet Cymru o Gasnewydd a theithio holl ffordd i Ysgol Llanllyfni i  berfformio yn Pontio ac rŵan maen nhw yma eto! 

Mae Ballet Cymru wedi dod eto oherwydd roedd y plant yn gweithio’n arbennig o dda ac oeddent wedi gwirioni’n lan efo ysgol Llanllyfni.

Ond y tro yma maen nhw am ein dysgu sut i ddarlunio gyda siarcol hefyd. Mae yna arlunydd proffesiynol wedi dod hefo nhw ei enw yw Carl Chapple.  Rydym ni yn dawnsio ac yn dweud wrth blant am aros ac wedyn yn darlunio’r symudiad. 

Mae Carl Chapple yn arlunydd proffesiynol sydd yn gweithio i Ballet Cymru, mae o wedi dysgu plant sut i wneud lluniau wrth ddefnyddio siarcol.  Mae 4 llun i gyd, dau lun 5.5m x 2.2m a’r ddau lun arall yn 2.2m x 4.2m. Mae dau llorweddol ar wahân a dau yn fertigol sy’n gorfod bod gyda’i gilydd, mae rhain yn ‘Diptych’. Dywedodd Carl Chapple ei fod o yma i wneud lluniau mawr i osod yn Pontio rhwng mis Mehefin a Tachwedd 2020.

Rydym wedi dysgu ballet sy’n hwyl a chyffroes rydym yn dysgu gan ymarfer retiré, arabesque, demi plié a pirouette. I ddechrau, rydym yn cerdded a rhedeg o amgylch y neuadd i gnesu fyny ac weithiau yn chwarae gem fach. Rydym yn gweithio fel criw bach i greu dawns, weithiau yn gwneud siapiau sydd yn cysylltu gyda’i gilydd, symudiadau ar draws y neuadd yn smalio bod mewn parti neu mewn coedwig dywyll. 

Golygfeydd o’r sioe bydd Ballet Cymru yn perfformio yn y dyfodol agos o’r enw Giselle ydy rhain. Mae’r gwaith celf yn dangos y golygfeydd yma. 

Ar y 28ain o Chwefror mae’r rhieni plant Ysgol Llanllyfni i ddod i edrych ar ddawns ac ar luniau’r plant.

Diolch i Ballet Cymru am ddod yma, i Pontio am alluogi ni i arddangos y gwaith celf. Diolch mawr i ‘The Paul Hamlyn Foundation’  a ‘Cyngor Celfyddydau Cymru’ am ariannu’r prosiect #Duets bydd yn digwydd yma yn yr ysgol mewn partneriaeth gyda Dawns i Bawb.

Dawns i Bawb – yn Gymraeg

Marchnad Lleu

10:00, 18 Mai (Roedd ‘na ddigon i wneud yn y Farchnad mis Ebrill rhwng y stondinau amrywiol – caws gafr, llysiau, cacennau, crefftau a phlanhigion. Daeth Tyddyn Teg o Fethel i werthu llysiau a rhannu gwybodaeth am eu cynllun Bocsus Llysiau. Mae sawl maint ar gael a gellir archebu a mi fydd yn bosib eu codi o’r Farchnad. Yn y Caffi roedd cyfle i gael brecwast o roliau bacwn neu wy ac yna cinio o chili llysiau, pizza cartref hefo madarch neu lysiau – a blasus oeddent ‘fyd. Gwerthwyd sawl cacen hefo paneidiau o de a choffi. Bwrdd rhannu gwybodaeth mis yma oedd ‘Gofyn i Mi’, o dan ofal Sian sy’n gweithio i fudiad Cymorth i Ferched. Roedd ganddi bosteri, cardiau a chyfle i rannu gwybodaeth ar pa gymorth sydd ar gael i oresgyn trais yn y cartref. Diolch iddi am ddod atom. Daeth criw at eu gilydd i stafell Yr Aelwyd i ddysgu dawnsio Salsa hefo Josie, rhaid oedd symud y traed gan gyfri a chofio pob math o symudiadau (sôn am chwerthin!) Mae sawl un o’r criw am fynd i Glwb Salsa Bangor gan eu bod wedi joiio cymaint. Stondin y Mis oedd prosiect Gardd Nant sydd wedi cychwyn yn Nhalysarn. Cafwyd cyfle i drafod y prosiect tra’n prynu tombola, llyfrau a chydig o waith llaw. Gobeithio eu bod wedi cael lot o bres ar gyfer eu cynlluniau. Yn y neuadd fawr cynhaliwyd cystadleuaeth plannu hadau blodau haul a bydd yn cael ei feirniadu fis Medi. Rhannwyd taflen i ddangos pwysigrwydd y planhigyn i ni. Hefyd yn y neuadd roedd Gwyneth wedi gadael ei bwrdd gwerthu – Bocssebon, i ddangos sut i wneud papur yn defnyddio papur wedi’i falu’n fân, dail a hâd a dwr. Pawb wedi mwynhau ac yn browd iawn o’u papur. Diddorol iawn wir. Diolch i’r stondinwyr am ddod atom ac i bawb am gefnogi eich marchnad leol.m ddim)