Dydd Mercher yma bydd Hedydd Ioan o Benygroes yn teithio i Lundain i dderbyn gwobr Seren y Dyfodol yng ngwobrau Into Film 2020.
Bydd y seremoni eleni yn cael ei gyflwyno gan David Walliams ac rhoi llwyfan i bobol ifanc rhwng 5-19 oed o bob cefndir, a phob gallu i arddangos eu gwaith creadigol.
Ers pryd wyt ti wedi bod yn ffilmio/cynhyrchu ffilmiau byr?
Mae ffilmiau wedi bod yn rhan o fy mhlentyndod erioed, mae yna archif o ffilmiau teuluol gan fy Mam a fy Nhaid. Oherwydd hyn roedd yna gamera o fy amgylch trwy’r amser wrth dyfu fyny.
O gwmpas 9 oed fe ddechreuais drio creu ffilmiau byr yn iawn. Dwi wedi cael nifer o gyfleoedd ers hynny i dyfu a dysgu fel gwneuthurwr ffilm.
Beth wyt ti’n ei wneud o ddydd i ddydd?
Dwi’n gweithio gyda Chwmni Fran Wen o ddydd i ddydd fel prentis creadigol. Dwi hefyd yn gweithio ar fy mhrojectau fy hun yn datblygu ffilmiau a music videos – ac yn creu a pherfformio dipyn bach o gerddoriaeth hefyd.
Eglura mwy am dy rôl fel gohebydd ifanc Info Film Cymru.
Yn 2017 cefais y cyfle i fod yn ohebydd ifanc Into Film, a drwy hynny dwi wedi cael cyfleoedd i ddysgu mwy am y diwydiant.
Erbyn hyn dwi ar banel ieuenctid Into Film Cymru, ac yn cael cyfle i leisio fy marn am waith Into Film gyda llond llaw o bobl ifanc eraill. Mae’r gwaith mae Into Film yn ei wneud mor bwysig – mae’n dangos potensial ffilm fel ffurf o adloniant a hefyd fel ffurf o addysg.
Beth mae’n ei olygu i ti i gael dy enwi fel un o sêr y dyfodol yng Ngwobrau Into Film 2020?
Mae’n anrhydedd mawr. Dwi wedi cyfarfod gymaint o bobl ifanc talentog drwy rwydweithiau a phrojectau Into Film, felly mae cael fy enwi ymysg sêr y dyfodol wir yn anhygoel.
Unrhyw tips ar gyfer pobol ifanc sy’n ystyried dechrau creu cynnwys?
Creu. Creu unrhyw beth. A pharhau i greu. Trwy’r amser. Creu, dysgu, gwella a chreu mwy.
Beth wyt ti’n mwynhau ei wylio ar hyn o bryd?
Newydd weld ‘Parasite’ a ‘The Lighthouse’. Dwy ffilm anhygoel sy’n dangos beth sy’n bosib ei greu gyda rhyddid creadigol. Ewch yw gwylio nhw os gew chi gyfle.
Pa brosiectau wyt ti’n gweithio arno ar hyn o bryd?
Dwi’n ganol gweithio ar dipyn o music videos fydd yn dod allan yn fuan, ac yn dechrau datblygu sgript ar gyfer ffilm newydd.
Rhannwch gyfrinach efo ni…
Mae’r coed yn siarad pam da ni’m yn gwrando.
Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?
Coffi.
Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i ti?
Trio deud jôc ar lwyfan Gŵyl Dinefwr, a neb yn chwerthin. Ddim hyn yn oed fy nhad.
Beth wyt ti’n ei wneud i gadw’n heini?
Dwi’n rhedeg yn eithaf aml, ac yn dawnsio ar ben fy hun yn fy stafell.
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
Stanley Kubrick a Tyler, the Creator. Mi fyswn yn cael unrhywbeth sydd ar fwydlen o fwyty Voltaire ym Mangor.
Pwy yw eich ysbrydoliaeth, neu pwy sydd wedi cael y dylanwad mwyaf arnoch chi?
Fy rhieni. Dwi wedi dysgu pwysigrwydd gwaith caled, a pa mor bwysig yw hi i helpu eich cymuned, ymysg yr holl bethau eraill. Hefyd maen nhw’n lot o hwyl i fod o’u cwmpas.
Be nesaf, neu beth yw eich gobeithion ar gyfer y dyfodol?
Creu yn ddiamod.