Bydd taith tractorau Dyffryn Nantlle ar ddydd Sadwrn ola’r mis yn codi arian er cof am Elfyn Pant Afon.
Mae’r daith, sydd yn cael ei chynnal ar 28 Medi ar y cyd â phwyllgor Neuadd Goffa Llanllyfni a Chlwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Nantlle, yn dathlu ei phen-blwydd yn bump oed y flwyddyn yma.
Hyd yn hyn, mae’r daith wedi codi arian i bedair elusen wahanol, ac eleni bydd elw’r diwrnod yn mynd tuag at gronfa Achub Calon y Dyffryn a Sefydliad y Galon (BHF).
Bydd y daith, sydd yn cychwyn am 10am o Neuadd Goffa Llanllyfni, yn cael ei chynnal er cof am Elfyn Pant Afon, a oedd yn gefnogwr brwd i’r daith yn flynyddol.
Tua 30 milltir fydd hyd y daith o amgylch yr ardal, ac mae’r union lwybr yn gyfrinach tan y diwrnod! Bydd y cerbydau yn cyrraedd nôl yn Llanllyfni am tua 2:30pm, ble bydd croeso i unrhyw un yn y neuadd.
Y pris i fod yn rhan o’r daith yw £20 y tractor, sydd yn cynnwys bwyd ar y diwedd. Mae’r ffurflenni cais ar gael o Ceiri Garage, Llanaelhaearn, neu cysylltwch trwy’r digwyddiad ar Facebook: https://www.facebook.com/events/442646722992474/
Dyma fideo sy’n rhoi blas o’r mathau o dractorau sy’n mynd ar y daith: https://www.facebook.com/342215692593822/videos/677523229063065/
Dyma stori gan griw Taith Tractors Dyffryn Nantlle ar gyfer gwefan fro newydd DyffrynNantlle360. I rannu eich stori leol chi, y cam cynta yw cofrestru fel ‘brodor’ yma: https://360.cymru