Mae Richard Jones neu Dic Dalar Deg i’w ffrindiau wedi bod yn tyfu llysiau a blodau ar gyfer cystadlu yn sioe flodau Dyffryn Nantlle ers hanner can mlynedd.
Ar bnawn Gwener braf cyn y sioe daeth penllanw ar fisoedd o baratoi gofalus wrth i Dic gynhaeafu’r cynnyrch toreithiog sy’n ei ardd; yn letys, nionod o bob maint, tatws, cennin, tomatos, rhiwbob, betys, ffa dringo a Ffrengig ac yna ei gasgliad lliwgar hardd o flodau yn cynnwys y dahlias, chrysanthemums a’i hoff flodyn y gladioli.
Ddydd Sadwrn yn y sioe llwyddodd i gael 8 wobr gyntaf, 2 ail a 3 trydedd wobr am ei gynnyrch gardd anhygoel sy’n cael ei dyfu gyda chymorth tail o fferm leol a tomorite ynghyd â llawer o ymroddiad a gofal.
Ond beth am y blodau?….. Doedd dim lwc y tro hwn gyda’r Dahlias ond cafodd un ymgais llwyddiannus efo tri chawg sef tri blodyn o’r un math mewn cawg, ond bydd rhaid aros tan y Sioe Hydref ddiwedd y mis i gael gweld gwledd o chrysanthemums a fydd yn eu llawn gogoniant erbyn hynny.
Bydd Dic yn troi y tir ar ôl y diolchgarwch a’i adael i orffwys dros y gaeaf cyn ail afael ynddi ddechrau’r gwanwyn nesa a dechrau’r plannu unwaith eto tua mis Ebrill.
Cofiwch am y Sioe Hydref fydd yn cael ei gynnal yn y neuadd goffa ym Mhen y Groes ar ddydd Sadwrn y 26ain o Hydref lle bydd cyfle i chi arddangos eich cynnyrch gardd, blodau, coginio, gwaith llaw, gwaith coed/metel, ffotograffiaeth ynghyd ag adrannau i’r plant. Cysylltwch â Mrs Beti Jones, ysgrifennydd y sioe am fwy o wybodaeth.- 01286 660365 / cymdeithasgarddiodn@hotmail.co.uk
Dyma fideo o Dic yn paratoi yn ei ardd –
Dyma stori ar gyfer gwefan fro newydd DyffrynNantlle360. I rannu eich stori leol chi, y cam cynta yw cofrestru fel ‘brodor’ yma: https://360.cymru