Y Drych

Sioe gymunedol gan blant Dyffryn Nantlle

gan Ben Gregory

Ar nos Lun a nos Fawrth yr wythnos hon cynhaliwyd dau berfformiad o Y Drych – sioe gymunedol gan Glwb Drama Dyffryn Nantlle.

Dyfeisiwyd y sioe gan y 27 o blant yn y cast, gyda help eu mentor, Iwan Fôn (sy’n hogyn lleol hefyd). Dros 10 sesiwn wythnosol, a mwy yn ystod hanner tymor a’r penwythnos cynt, datblygodd y plant rhwng 7 a 11 oed y sioe, gan adrodd hanes Dyffryn Nantlle. Gyda storïau o’r gorffennol, presennol a’r dyfodol, roedd y sioe yn dangos gobeithion y plant ar gyfer yr ardal, sydd wedi dechrau ffynnu yn ddiweddar.

Gyda band byw a sustem sain a golau newydd sbon, cafodd y gynulleidfa ei thywys o gwmpas ystafelloedd gwahanol Neuadd Goffa Penygroes i weld y sioe gyda chaneuon a symudiadau gwreiddiol.

Trefnwyd y gweithdai a’r sioe gan Dyffryn Nantlle 2020. Cododd y grŵp yr arian hefyd, gyda chyfraniadau gan LleCHI, Cronfa Gymunedol y Loteri, Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Stadiwm y Mileniwm a’r rhieni.

Bydd Clwb Drama Dyffryn Nantlle yn ailgychwyn ar ôl y Nadolig.