Gwledd yn Y Groeslon

Beth am ymuno â Chymdeithas Brynrhos?

angharad tomos
gan angharad tomos

Chwilio am rywle i fynd gyda’r nos?

Mae Cymdeithas Brynrhos, Y Groeslon yn cwrdd
bob pythefnos. Ers blwyddyn, nid Brynrhos
yw’r man cyfarfod bellach, ond Ysgol Bro Llifon.
Rhowch y rhain yn eich dyddiadur, ac os oes rhai
yn apelio – mae croeso cynnes i chi ddod.
£7 yw’r tâl am flwyddyn i’r Gymdeithas Lenyddol, a 7 o’r gloch yw’r amser.

 

Y Fwydlen:

Hydref 22: Karen Owen
‘Noson o Gerddi’

Tachwedd 5: Bob Morris
‘Dyffryn Nantlle yn yr Oesoedd Canol’

Tachwedd 19: Stephen Hughes
‘Coffi Poblado’

Rhagfyr 3: Mary Hughes
‘Noson ar Thema Dathlu’

Ionawr 7: Endaf Jones efo’r Cwis

Ionawr 21: Ffion Eluned Owen
‘Y Brodyr Francis’

Chwefror 4: Alun Ffred Jones
‘Gwaddol John Gwilym Jones’

Chwefror 18: Dei Tomos
‘Nant y Betws’

Mawrth 3: Swper Gwyl Ddewi
Yng Nghlwb Golff Caernarfon
efo Gwenan Gibbard, ‘Telyn a Chân’.