Awydd gwirfoddoli?

Eisiau rhoi rhywbeth nôl i’r gymuned? Eisiau rhoi eich amser i helpu unigolion?

greta
gan greta

 

Weithiau rydym yn cymryd pethau’n ganiataol, er enghraifft y rhyddid i allu mynd i unrhyw le y dymunwn, unrhyw bryd. Yn anffodus, nid pawb sy’n gallu gwneud hynny.

Mae Cynllun Trafnidiaeth Cymunedol newydd yn dechrau ym Mhenygroes yn y flwyddyn newydd. Bydd y cynllun yn anelu i helpu unigolion sy’n cael trafferth i gyrraedd llefydd oherwydd gwahanol resymau a’u helpu i deimlo’n fwy hyderus ac annibynnol.

Mae’r Orsaf yn chwilio am yrrwyr gwirfoddol i dywys pobl i apwyntiadau meddygol, teithiau siopa, ymweliadau cymdeithasol ayyb. Bydd y cynllun yn talu am hyfforddiant, DBS, a chostau petrol i’r gwirfoddolwyr.

Bydd sesiwn galw heibio ar Ionawr 23ain rhwng 2 a 4yh yn Yr Orsaf i bobl gael sgwrs a derbyn mwy o wybodaeth am y cynllun arbennig hwn.

Dyddiad cau: Chwefror 29ain, 2020.

Os hoffech wirfoddoli neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch ar:

07410982467 / post@yrorsaf.cymru