Blas ar wynt y môr

Crwydro Morfa Dinlle

Ceridwen
gan Ceridwen

Rydym i gyd yn hoffi mynd i Ddinas Dinlle am dro. Lle sydd well i gael gwynt y môr, tamaid blasus i’w fwyta a golygfeydd heb eu hail. Ac os ydym yn lwcus mae weithiau yn ddigon cynnes yno i ymdrochi neu eistedd ar y lan yn gwylio y tonnau. Rwyf yn hoffi hefyd mynd draw i weld a gwrando ar aderyn arbennig sy’n trigo yn y caeau, sef y Cornchwiglen. Ac i’r cyfeiriad yna, am y Morfa rwyf am fynd a chwi am dro y tro hyn; i ben draw y traeth a fyny heibio y Maes Awyr; mae golygfeydd gwahanol i’w cael ar ochr arall Morfa Dinlle.
Mae bws, y G6 , yn dod i Ddinas Dinlle chwe gwaith y dydd o Gaernarfon drwy Saron a Llandwrog ac yn troi nol yn ymyl lle mae ein taith yn dechrau. Ar ol pasio y Maes Awyr mae “Capel bach y Morfa” a adeiladwyd tua 1890 ar gyfer trigolion y ffermydd cyfagos fel Belan Las, Tyn Parc a’r Warren ond mae yn anneddle ers y 1990au. Os ydych yn gyrru yma, mae man parcio ger y tro yn y lôn, neu nes ymlaen lle mae’r ffordd yn llydan. Yn syth ymlaen o’r hen Gapel bach mae giat llydan, a giat fochyn i ni fynd drwyddi. Rydym nawr ar Morglawdd y Morfa a gallwn ddewis pa ffordd i fynd. Os awn i’r chwith cawn gerdded i gyfeiriad Abermenai a chael golygfeydd am Gaernarfon a Môn, ac o’n blaenau mae Bae y Foryd. Pwy syn cofio mynd i hel cocos i’r Foryd; eu cribino nhw o’r tywod, cario nhw adre mewn pwcedi yn y car, a’u berwi!  Uch!  Wnes i erioed eu mwynhau, dim ond mwynhau yr hwyl o hel cocos!
Mae afon Gwyrfai yn dod allan i’r Foryd ac mae’r ardal dywodlyd a lleidiog yn gynefin i bob math o adar y môr, ac mae’n bleser eu clywed ar brynhawn braf pan maent wrthi yn bwydo. Fy ffefryn i yw Pioden y Mor a croeso iddi gael y cocos i gyd!  Mae yn haws gweld yr adar ar ochr arall y Morfa , yn Llanfaglan neu Foryd Bach ger Saron. Mae’r daith ar y morglawdd yn cario ymlaen hyd nes byddwn gyferbyn a Fferm y Warren, cyn bod rhaid troi nol am y giat.
Os awn am y dde wrth y giat cawn gerdded i gyfeiriad Llandwrog efo ysblander Dyffryn Nantlle o’n blaen y tro hwn. Byddwn yn cerdded tuag at fferm hynafol Cefnrhengwrt, lle roedd y morglawdd yn cyrraedd yn wreiddiol. Adeiladwyd y Cob tua 1810 er mwyn ennill tir ffermio rhwng Dinas Dinlle a’r Foryd. Mae yn daith hawdd iawn i ddechrau, ar ben y Cob ac fe welwn afon Carrog yn llifo heibio. Eto mae yma lawer o adar yn bwydo, ac yn fuan fe welwn bont fechan yn troi i’r chwith, rhan o Lwybr yr Arfordir. Mae braidd yn anwastad a chul ar y llwybr yma ond mae yn dod allan i’r ffordd ger Chatham lle mae safle bws os am fynd nol am Ddinas Dinlle a Llandwrog, neu i Gaernarfon. Rhaid cymeryd pwyll wrth gerdded ar y ffordd yn fama, mae’n droellog a heb balmant. Mae yn bosibl cerdded ymlaen ar y Cob am ychydig, heibio y bont, heibio pont arall, a thrwy giat fochyn eto. Ond yn anffodus ar ol ychydig mae’r llwybr wedi ei ddifetha , rhan fwyaf gan yr afon yn gorlifo a waliau wedi dymchwel. Mae pont yn croesi yr afon Carrog nes ymlaen a’r llwybr yn y ddiwedd yn dod allan i’r ffordd ger Pont Storws. Ond nid oes siawns o cyrraedd y bont os na chawn dywydd sych a heulog am wythnosau! Felly troi nol sydd raid, ar ol gwerthfawrogi gweld twr Eglwys Llandwrog a Boncan Dinas o ongl wahanol. Ac os ydym yn lwcus cawn weld yr Ehedydd yn hofran ac yn canu uwchben; mae’r Morfa yn gynefin iddo yntau hefyd.

Gobeithio y cewch gyfle i fynd i grwydro cyn bo hir.