Ti a Fi

Ymunwch yn yr hwyl a sbri hefo Dewin a Doti!

gan Anna Yardley Jones
TI A FI PENYGROES YN AIL-GYCHWYN

Bydd grŵp Ti a Fi yn ail-gychwyn ar yr 2il o Fedi. Ein cartra newydd fydd Plas Silyn a bydd y sesiynau ar bnawniau Llun rhwng 1.00 – 2.00.

Croeso i rieni/neiniau/teidiau i ymuno â ni. Bydd y sesiynau yn cynnwys llawer o ganu, ambell i stori, cyfle i gael sgwrs ac i’r plantos gael chwarae, a chrefft syml.

Mae’r sesiynau yn benodol ar gyfer plant bach 0 – 2 oed ac AM DDIM!

Cyfyngir y nief i 10 rhiant a rhaid archebu lle ymlaen llaw gan ddefnyddio’r opsiynau ar y poster.

Edrychaf ymlaen i’ch cyfarfod ym mis Medi – Anna (Swyddog Ti a Fi Teithiol)