Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Bydd taith gerdded nesaf Yr Orsaf brynhawn dydd Sul, 8 Rhagfyr, am 2pm. Taith o tua awr a hanner yn mynd am dro a amgylch Dinas Dinlle, gan obeithio am dywydd sych a machlud haul gwefreiddiol. Mae’r tywydd yn gallu bod yn ansefydlog adeg yma o’r flwyddyn felly gwisgwch yn briodol ar gyfer y tywydd – bydd angen dillad cynnes, cot law ac esgidiau cerdded sy’n dal dŵr (pwysig iawn!). Cyfarfod tu allan i’r toiledau a’r cae swings ger y maes parcio am 2pm. Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle cysylltwch efo llioelenid.yrorsaf@gmail.com