Taith Gerdded Caer Engan

Nos Fawrth 30.7.24 am 6:30pm

gan Llio Elenid
caer-engan-facebook

Dewch am dro efo ni i fryngaer Oes yr Haearn Dyffryn Nantlle – Caer Engan nos Fawrth, 30ain o Orffennaf. Mae hi’n daith gerdded o 2.5 milltir / 4 km – ryw awr i awr a hanner.

Fydd hi’n daith efo tirwedd cymysg – tarmac a chaeau – felly bydd angen sgidiau cerdded cadarn a chyffyrddus. Byswn yn awgrymu i chi wisgo trowsys llaes hefyd, gan fod gwair eithaf uchel ar hyd y daith. Cofiwch wisgo ar gyfer y tywydd – cot law i’r glaw, haenau cynhesach os ydi reit oer, ac eli haul os ydi hi’n haul – a dewch a diod a byrbryd (snac) bach efo chi!

Byddwn yn cyfarfod am 6:30 yn iard gefn  Yr Orsaf, Penygroes.

Mae gennym ni fwy o deithiau ar y gweill dros y misoedd nesa hefyd – i gyd yn lefelau her gwahanol – felly cadwch lygaid allan ar DyffrynNantlle360, yn papur bro Lleu, ac ar dudalennau instagram a facebook Yr Orsaf.