Roedd hi’n ddydd Sadwrn braf iawn, a dydd Sadwrn prysur iawn i rai, yn y Groeslon ar y 24 o Awst eleni. Diwrnod y Sioe flynyddol – yr 82fed erbyn hyn! Cafwyd gwledd o lysiau, blodau, potiau jam, brodwaith, celf a chrefft a chacennau yn y neuadd – mwynhewch y lluniau ohonynt!
Diolch o galon i bawb a gystadlodd, ac a gefnogodd drwy biciad draw ar y diwrnod. Diolch i’r beirniaid, a diolch hefyd i’w pwyllgor am eu holl waith caled drwy’r flwyddyn yn ogystal ag ar y diwrnod. A llongyfarchiadau mawr i bawb a ddoth i’r brig!
Dyma ganlyniadau’r prif wobrau –
Cwpan am y Gorau yn Adran Llysiau
Bertwyn a Janet Williams
Gwobr Casgliad o Lysiau
Bertwyn a Janet Williams
Cwpan am y Gorau yn Adran Ffrwythau
Rhys Owen
Cwpan Mwyaf o Bwyntiau yn Adran Llysiau a Ffrwythau
Bertwyn a Janet Williams
Cwpan am y Dahlia Gorau
Ailsa Jones
Cwpan am y Gorau yn Adran y Blodau
Gloria a Derek Harrison
Cwpan am y Planhigyn Gorau mewn Llestr
Rhys Owen
Cwpan am y Mwyaf o Bwyntiau yn Adran y Blodau
Marnel Pitchard
Cwpan am y Gorau am Osod Blodau
Evelyn Williams
Cwpan am y Gorau yn Adran Coginio
Judy Munford
Tiws Coffa Mrs Megan Williams Memorial Plaque
Mwyaf o Bwyntiau yn yr Adran Coginio
Delia Harrison
Cwpan am y Gorau yn Adran Celf a Chrefft
Marian Jones.
Cwpan Mwaf o Bwyntiau yn y Sioe
Bertwyn a Janet Williams
Cwpan am y Mwyaf o Bwyntiau yn Adran y Plant
Cerys Haf
Tarian Y Gorau yn y Sioe
Marian Jones