DARLLENNWCH I’R GWAELOD AM GYFLE I ENNILL GWOBR I CHI A HYD AT 3 FFRIND
Mae heddiw yn nodi 10 mlynedd union ers i’r gasgen gyntaf o gwrw Bragdy Lleu fynd ar werth mewn tafarn leol.
Mae’r cwmni wedi dod yn bell yn y cyfnod hwnnw (dau gan’ llath o Uned A9 i Uned 6 i fod yn ddaearyddol gywir!) ond mae ein gwreiddiau yn dal yn gadarn yma yn Nyffryn Nantlle, ac yma byddan nhw.
Y dechreuad
Fe gychwynnwyd bragu ar offer “casgen a chwarter” o faint (oedd yn cynhyrchu uchafswm o 4-5 ffyrcin / 360 peint fesul brâg), a hwnnw yn offer ail, neu drydedd, neu bedwaredd llaw oedd wedi bod yn nwylo Cwrw Nant, Cwrw Llŷn a Chwrw Cader cyn ein cyrraedd ni, a chario ymlaen ar ei daith i Cwrw Ogwen ar ôl i ni dyfu allan ohono. Roedd yr offer sylfaenol hwnnw angen cryn dipyn o “TLC” yn y dechrau, ond roedd yn offer gwych i gychwyn arno ac i honni’r grefft fragu. Fel gwelwch o’r lluniau, mi oedd y teciall a’r ’mash tun’ yn llawn dop wrth fragu.
Tyfu
Symudwyd ymlaen i offer newydd maint chwe chasgen yn 2016 a gyda’r offer hwnnw roedd modd ehangu’r cynnig i gynnwys cwrw newydd, poteli ar raddfa fwy ac yn gyffredinol i ateb y galw cynyddol am y cwrw. Bu Uned A9 yn le perffaith i gychwyn y fenter ac mae ein diolch i Gyngor Gwynedd, ac yn ddiweddarach i Antur Nantlle, am roi cartref i ni sefydlu a lle lle i dyfu’r busnes yn fawr.
Dros y 4 mlynedd nesaf defnyddiwyd pob un modfedd sgwâr oedd ar gael i ni yn Uned A9. Gwyrth, a lot fawr o fesur a chynllunio a dweud y gwir, oedd i ni allu cynhyrchu’r fath gwrw o uned fechan. Cynhaliwyd ambell i ŵyl lwyddiannus a phoblogaidd yma hefyd (er gwaethaf y tywydd gwael bob un tro os dwi’n cofio’n iawn). A dweud y gwir, mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn gobeithio gallu ei wneud eto – a fyddai gennych chi ddiddordeb i ni gynnal gŵyl gwrw a cherddoriaeth arall rhyw dro? Gadewch i ni wybod.
Tyfu eto
 ninnau wedi hen dyfu allan o’r bragdy bach ac wedi bod angen uned fwy ers sbel, ond yn gwrthod symud o’r Dyffryn, daeth cyfle yn 2020 i symud i un o unedau gwag Gwasg Dwyfor ar y safle sy’n cael ei adnabod heddiw fel Parc Menter Dyffryn Nantlle, enw addas iawn i ni fel mae’n digwydd. Roedd yr amseru yn anodd gyda chyfyngiadau ac ansicrwydd Cofid yn effeithio pob rhan o gymdeithas, ond roeddem wedi bod yn chwilio am le ers peth amser ac felly penderfynwyd – os mentro, yna mentro go iawn.
Bum yn ffodus o gael tenantiaeth yr uned ac wedyn gyda chymorth y Loteri aethom ati i uwchraddio i offer bragu ac eplesu arbenigol, mwy, a gyda gwaith gwych nifer o adeiladwyr, seiri, trydanwyr, plymars a weldar lleol, gosodwyd yr offer yr ydych yn ei weld yn y bragdy heddiw. Gyda’r offer hwn rydym yn bragu deg gwaith cymaint â’r offer cychwynnol fesul brâg – yn wir, byddwn yn llenwi 40 o gasgenni fory – 2,880 o beintiau o Twrch a fydd ar gael mewn tafarndai (ac ym mar y bragdy) yn fuan iawn.
Gosodwyd baneli solar ar y to yn ogystal â phrynu fan drydan, ac o hyn daeth y slogan “cwrw glân, nid cwrw budur” gan Gareth Harrison ein Pennaeth Bragu newydd. Rydym yn gwneud ein gorau i fod yn fusnes sy’n lleihau ein ôl troed carbon cymaint â phosib felly mae’r holl drydan yr ydym yn ei ddefnyddio o ffynonellau 100% adnewyddadwy.
Y dyfodol
Gyda Gareth wrth y llyw yn arwain ar waith dyddiol y bragdy ers dros ddwy flynedd bellach, rydym yn edrych ymlaen i weld y busnes yn tyfu.
Fel busnes sy’n cael ei arwain gan griw bychan o wirfoddolwyr, rydym yn falch o fod yn rhan o gymuned glos y Dyffryn arbennig hwn, ac i rannu hanes, iaith a diwylliant unigryw yr ardal drwy gynhyrchu cwrw ar themâu’r Mabinogi – chwedlau byd enwog sydd â’u gwreiddiau yma yn Nyffryn Nant-LLEU. Mae’r cwrw bellach ar werth mewn tafarndai, siopau, canolfannau garddio, bwytai a phob math o fusnesau annibynnol eraill ym mhob cwr o Gymru a thu hwnt.
Ym mar y bragdy mae arddangosfa ddifyr o hen luniau yn troelli ar sgrin fawr, a thros beint cewch hanes y cymeriadau unigryw o chwedlau’r Mabinogi sydd wedi ysbrydoli’r pum cwrw sydd gennym ar gael fel rhan o’n cynnig craidd. Mae mwy o gwrw ar y ffordd hefyd, felly bydd rhaid gosod mwy o bympiau ar y bar acw reit handi.
Diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi ar hyd y blynyddoedd. Da ni’n edrych ymlaen at y deg mlynedd nesaf ac yn gobeithio eich gweld am sgwrs a pheint yn fuan. 🍻
🍻🎉🍻🥳🍻🎉🍻
Cystadleuaeth dathlu 10 mlynedd
I ddathlu 10 mlynedd o fragu, rydym yn cynnig gwobr o rownd o ddiodydd i hyd at 4 o bobl ym mar y Bragdy ym Mhenygroes.
Yr hyn sydd angen i chi wneud yw hoffi’r stori hon drwy glicio ar y botwm ‘Diolch’ ac ateb y cwestiwn canlynol yn y sylwadau isod erbyn dydd Llun 10fed Mehefin: Ym mha drefn lansiwyd pum cwrw craidd Bragdy Lleu, sef Bendigeidfran, Blodeuwedd, Gwydion, Lleu a Twrch?
Bydd y cynigion buddugol yn cael eu rhoi mewn het ac fe wnawn ni gysylltu gyda’r enillydd yn fuan ar ôl y dyddiad cau.
Dyma i chi gliw – Lleu oedd y cyntaf. Pob lwc!