Marchnad Lleu

Gorffennaf

Anwen Harman
gan Anwen Harman

Wel dyna fis arall heibio hefo Marchnad Lleu yn fwrlwm o stondinau, sgwrsio a hwyl. Roedd sawl stondin newydd wedi dod atom, Becws Gymunedol Llanaelhaearn yn un, a croeso mawr iddynt ynghyd a phôb lwc hefo’r fenter. Roedd stondinau ffrwythau a llysiau ffres a maethlon yn cael eu gwerthu o dair stondin brysur dros ben – Trogonos, Tyddyn Teg a Henbant. Yn ogystal a’r stondinau bwyd roedd nifer fawr o rai crefft, rhain hefyd yn lleol i Ddyffryn Nantlle. Cafwyd bwrdd cyfnewid gwisg ysgol ac roedd sawl rhiant yn falch o’r cyfle i roi a derbyn gwisg i’w plant am ddim.

Gwerthwyd pob dim o’r Caffi – moussaka, salads, pizzas, cawl asparagws a nifer fawr iawn o roliau bacwn. Roedd ‘na eclairs siocled ar werth- am gyfnod byr iawn! Gwych gweld ein cwsmeriaid yn joiio brecwast a chinio rhâd. Diolch i’r merched am eu gwaith diflino.

Stondin y Mis oedd RNLI ac roeddent yn gwerthu nwyddau i godi arian tuag at y mudiad pwysig yma. Yn rhannu gwybodaeth mis yma oedd Jonathan o BusyBees, Bangor. Cafwyd dwy sgwrs; y cyntaf oedd ‘Gwenyn a sut i’w Helpu’, a’r ail oedd ‘O’r Gwch i’r Pot’. Roedd yn hynod ddiddorol gyda nifer fawr yn gwrando’n astud. Rhwng y sgyrsiau gwenyn daeth Ramona o’r Groeslon i ddangos y ddawn o ddawnsio bol, a gyda lot fawr o giglo cawsom gyfle i siglo!

Buan iawn aeth yr amser, pawb i weld ‘di mwynhau, ‘di gwario a ‘di bwyta llond bol. Welwn chi mis nesa’.