Marchnad Lleu

Mehefin

Anwen Harman
gan Anwen Harman
Ci-gwrando y Samariaid

Ci gwrando y Samariaid.

Seren

Bwrdd gwerthu Seren a’i chrefftau.

Stroc

Tim Atal Stroc yn rhannu gwybodaeth.

T-Teg

Llysiau ffres a bara o Tyddyn Teg – bwyd da am brisiau rhesymol.

Roedd prysurdeb mawr ymhob stafell o Neuadd Goffa Penygroes tra bu’r Farchnad mis Mai. Roedd stondinau diddorol eto mis yma, crefftau, bwydydd a phlanhigion – pawb yn sgwrsio a phrynu. Braf oedd gweld merch ifanc hefo bwrdd gwerthu ei chrefftau, gobeithio y daw nol atom! Brecwast a chinio yn y Caffli Tylluan oedd ar gael hefo cyfle am egwyl a sgwrs; yma roedd arddangosfa am Fyd Natur.

Cafwyd dwy sesiwn Bingo hefo lein yn ennill tocyn i gael panad a chacen am ddim a ‘ty llawn’ yn rhoi £20 o dycynnau i wario yn unrhyw stondin. Roedd ambell un yn nerfus iawn ac yn berwi i ennill! Pawb di mwynhau. Stondin y Mis oedd Samariaid Gwynedd a llond bwrdd o siocled ar gyfer eu Tombola. Daeth un o’r gwirfoddolwyr a ci gwrando yna –  diddorol iawn wir. Gwasanaeth bwysig iawn i bawb,pôb awr o’r dydd, pôb dydd o’r flwyddyn. Diolch iddynt am eu gwaith diflino a gobeithio eu bod wedi casglu lot fawr o arian.

Daeth Tim Atal Stroc o Fwrdd Iechyd Lleol atom i rannu gwybodaeth ar eu Gwaith yn y gymuned. Bu 18 at y bwrdd i gael mesur pwysau gwaed a churiad calon – roedd 6 o rhain yn y ‘coch’ felly mawr obeithio fod rhain wedi mynd at y Meddyg Teulu. Roeddent yn brysur yn holi, cofnodi ac yna yn bwydo’n ol i’r bobol. Diolch yn fawr iddynt am ddod draw atom.

Ar ol llwyddiant y bwrdd cyfnewid hadau a phlanhigion mis Mai, dyma feddwl am fwrdd cyfnewid dafadd a defnydd tro yma. Roedd nifer go dda wedi dod a bagiau o ddefnydd a dafadd sbâr, a sawl un yn mynd a bagiau llawn adref. Handi cael clirio a chael stwff ‘newydd’!

Hoffem ddiolch i bawb am fynychu a helpu mewn unrhyw ffordd – mae’r Farchnad yn mynd o nerth i nerth.

Dweud eich dweud