Marchnad Lleu

Mis Mai

Anwen Harman
gan Anwen Harman

Roedd y Farchnad eitha prysur ym Mai, sawl un wedi dod am frecwast a chinio o’r Caffi – rhad, blasus ac mewn awyrgylch braf. Daeth criw o Fwrdd Iechyd lleol i siarad a dangos sut I edrach ar ol hylendid y gêg. Stondin y Mis oedd cangen leol Merched y Wawr ac yn brysur yn gwerthu tocynnau raffl a tombola. Bu bwrdd cyfnewid hadau a phlanhigion o dan ofal Wendy (Rhosgad) a Sion GwyrddNi yn ei helpu. Roedd lot fawr o siarad a chwerthin ar y stondin yma!
Gwerthodd Tyddyn Teg eu llysiau i gyd! Pawb ishio llysiau safonol a maethlon. Sesiwn blasu oedd Origami ac roedd Rhys Roberts o’r Ganolfan Dechnoleg Bwyd, Llangefni ar gael i roi arweiniad ar gychwyn busnes o ran rheolau bwyd a diod.

Diolch i bawb am werthu, prynu a chefnogi.