Roedd y farchnad yn ei chartref Newydd mis yma – yn y Neuadd Goffa ym Mhenygroes ac er gwaetha’r tywydd fe ddaeth criw go dda draw. Bu Gwynedd Ddigidol yn rhannu gwybodaeth ar gadw’n Saff ar lein a cafwyd sgwrs a thrafodaeth ar Newid Hinsawdd gan Michelle – cafodd seibiant o’r Caffi i rannu gwybodaeth ar destun hynod bwysig. Gwerthwyd rholiau bacwn, cawl a chyrri a phob tamaid o’r cacennau blasus. Hefyd yn y stafell fach roedd dau sesiwn yoga – un yn defnyddio cadair ac roedd hwn reit llawn.
Bu llai o stondinau yna mis yma, rhai yn y Caffi a’r gweddill yn y neuadd fawr. Yn fano ar y llwyfan roedd Cornel y Plant a gwneud dolen llyfr hefo dail a blodau bu rhai yn ystod y bore. Penderfynnodd Sarah Roberts o stondin Harddwch wneud bocs i gasglu hen golur. Daeth dipyn draw i’w hailgylchu. Thêm y mis oedd Heddwch, gyda colomennod papur ac arwyddion heddwch o gwmpas y stafelloedd. Creuwyd focsus bach ar y byrddau gyda geiriau heddwch arnynt. Diwrnod da iawn wir!