Marchnad Lleu

Mis prysur eto

Anwen Harman
gan Anwen Harman

Roedd Marchnad Tachwedd yn un diddorol iawn hefo digonedd o stondinau yn gwerthu eu cynnyrch a nifer fawr o’r trigolion yn dod i gefnogi. Gwerthodd Tyddyn Teg eu bara a rhan fwyaf o’u llysiau! Cafwyd sawl stondin newydd mis yma a croeso iddynt. Bu’r caffi yn brysur trwy gydol y bore a phôb tamaid o fwyd wedi’i werthu – pizza, stiw llysiau a thwmplenni, byrgers llysieuol wedi fflio allan hefo paneidiau a chacennau siocled a banana a spwnj almwn hefyd wedi diflannu!

Ein sesiwn blasu oedd Eirian o Helyg Lleu yn arwain grwp o 13 brwdfrydig iawn i greu siapiau ‘Dolig hefo helyg. Pawb wedi mwynhau yn arw ac yn falch iawn o’u haddurniadau. Gobeithio y daw ‘nol atom flwyddyn nesa’.

Yn yr ystafell fach daeth Islwyn atom yr holl ffordd o Gorwen hefo tylluanod a chyfle i sgwrsio a dysgu amdanynt. Bu’r plant yn rhyfeddu bod môr agos atynt ac ambell un wedi cael tynnu llun hefo nhw. Roedd gen i ofn yr un mawr, mawr gan iddo rythu arnai fel tasa eisiau fy llarpio!

Stondin y Mis oedd Clwb Peldroed Talysarn. Rhian a’i mherch yn brysur gwerthu raffl, da-das a chynnyrch y Clwb – hetiau a scarffiau. Daeth Tim Atal Ysmygu o Fwrdd Iechyd Lleol draw i rannu gwybodaeth ac annog pobol i stopio ‘smygu. Bu yn brysur yn rhannu taflenni a chysylltiadau hefo 21 o bobol – diolch i Jo-Anna am ddod a mawr obeithiwn bydd y 21 yn pasio’r genadwri ‘mlaen.

Daeth chydig o blant i’r Gornel i wneud addurniadau bach at y Nadolig hefo Jane. Cyfle i’r rhieni gael seibiant bach! Diolch i bawb ddaeth atom ac wrth gwrs i’r stondinwyr a’r tîm bach o wirfoddolwyr sy’n trefnu’r Farchnad.

Dweud eich dweud