Wel am Farchnad wych mis diwetha’ ‘ma, yr orau eto! Yn orlawn, llawn bwrlwm a digonedd o bethau i’w gwneud, gweld ac wrth gwrs cyfle am banad. Daeth nifer o stondinau newydd draw a braf gweld y rhai arferol yn dal i’n gefnogi. Cafodd Sarah Tropic gyfle i roi sesiynau 1:1 i rai ar edrych ar ol y croen a rhoi cyfle i ferched gael amser ‘FI’!
Sesiwn blasu yn y stafell fach oedd Plygu Llyfrau a rhwng yr holl siarad a chwerthin, daeth draenogod bach ddigon o’r ‘feddod i’r fei! Cafodd rhai wneud coeden Dolig hefyd – sesiwn wych a diddorol gan Plygiadau Perffaith – diolch. Bu Jane yn brysur gwneud addurniadau Calan Gaeaf yng Nghornel y Plant.
Ein Stondin y Mis oedd Clwb Peldroed Talysarn – gwerthu ticedi raffl –a gobeithio bo chi wedi gwneud elw dda tuag at goffrau’r Clwb. Bu’r Caffi yn andros o brysur, wedi gwerthu allan o’r bwydydd, a crwmbwl afal a chwstad yn gorffen pryd i’r dim. Diolch i’r merched am eu gwaith prysur trwy’r bore. Yn dilyn cais gan un o fynychwyr y Farchnad, cafwyd bwrdd rhannu a chyfnewid jig-sos a gemau bwrdd – ffordd handi o gael rhai newydd at y nosweithiau hir sy’ o’n blaenau.
Criw bach o wirfoddolwyr ydym ac os hoffech ymuno a ni – bydd croeso ichi cofiwch. Edrach ‘mlaen at y nesa rwan – welwch chi yna gobeithio!