Marchnad Lleu

Medi

Anwen Harman
gan Anwen Harman

Cafwyd Marchnad go brysur eto mis Medi hefo’r thêm Bwyta’n Iach. Yn naturiol roedd mynd ar y llysiau, bara a’r cacennau, sawl stondin yn brysur trwy’r bore. Roedd stondin gwerthu jam yn Newydd mis yma ac yn boblogaidd yn ogystal a’r rhai o grefftau cywrain. Roedd sachau mawr ar y llwyfan yn casglu dillad, bagiau ac esgidiau ar gyfer Warws Werdd, Antur Waunfawr. Erbyn diwedd y bore ‘roedd y sachau’n llawn – diolch ichi am hyn, a chael cyfle i gael clirio tipyn adra! Hefyd roedd bwrdd yn casglu afalau sbâr ar gyfer Antur i wneud eu sudd afal a seider hefo’r gweithwyr.

Yn y neuadd fach cafwyd sesiwn o ddawnsio llinell hefo Maggie o Waunfawr, dipyn o hwyl ac ambell un wedi cael dwy droed chwith erbyn y bore yma. Diolch i Maggie am roi ei hamser am ddim i ni. Hefyd yn ystod y bore daeth Claire Mace i ddangos sut i eplesu llysiau er mwyn eu ‘preserfio’ at y Gaeaf. Grwp yn gwrando’n astud ac yna’n cael cyfle i flasu’r cynnyrch. Andros o ddiddorol wir.

Fel arfer roedd Caffi’r Dylluan yn brysur yn gweini cawl, ratatouille llysiau a pizzas cartref ynghyd a paneidiau o de a choffi. Flapsiac afal oedd ar gael fel pwdin. Lyfli oedd cael llond bws mini a char o Fethesda’n ymuno a ni. Chris Roberts GwyrddNi Dyffryn Ogwen oedd wedi trefnu’r cludiant a braf oedd cael wynebau newydd yno – gobeithio ddewch eto!

Stondin y Mis oedd Freshfields, Nebo – yno maen’t yn gwarchod anifeiliad a rhoi cartre da cyn eu hailgartrefu. Bu Ben yn brysur trwy’r bore yn siarad am y Gwaith a gwerthu nwyddau’r elusen.

Dyna ni am fis Medi, paratoi at yr Hydref fyddwn rwan – mae croeso cynnes ichi gyd cofiwch.

Dweud eich dweud