Helo! Ffion ydw i ‘Merch y Gelli’ sef Gelli Ffrydiau, fferm ddefaid yn Nyffryn Nantlle . Ers bron i flwyddyn bellach rwy’n byw yn Kendal, Cumbria.
Mi symudais i yma oherwydd swydd fy mhartner i, John, ac rwy’n mwynhau byw yma’n fawr iawn. Mi astudiais i Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ac er nad oeddwn i’n sicr be roeddwn i eisiau’i wneud ar ôl yr ysgol dyma un o’r penderfyniadau gorau wnes i. Mi agorodd gymaint o ddrysau i mi gan gynnwys fy swydd bresennol fel tiwtor Cymraeg i oedolion efo Prifysgol Bangor. Mae’n anodd rhoi mewn geiriau’r pleser rwy’n ei gael o ddysgu. Rwy’n edmygu bob un unigolyn sy’n mynd ati i ddysgu Cymraeg ac ymarfer yn y gymuned. Er mai person tawel oeddwn i yn yr ysgol a pherson tawel ydw i hyd heddiw mae dysgu yn dod yn rhwydd i mi erbyn hyn. Siarad efo ffrindiau fydda i yn y dosbarth mewn gwirionedd a pharatoi’r gwersi ydy’r gwaith anodd. Ers i mi symud i Kendal dysgu ar-lein ydw i yn unig ond rwy’n parhau i ddod adra yn aml ar gyfer unrhyw hyfforddiant neu gyrsiau atodol. Mae’n esgus da i weld teulu a ffrindiau!
Rwy’n mwynhau mynd am dro yma yn Ardal y Llynnoedd. Yn aml mi fydda i’n cerdded ac yn mynd i weithgareddau efo’r grŵp ‘Wonderful Wild Women.’ Maen nhw’n grŵp yn Ardal y Llynnoedd sy’n cynnal llawer o ddigwyddiadau megis boreau coffi ger Llyn Windermere, clwb rhedeg, clwb darllen a hyd yn oed digwyddiad ‘Drink and Draw.’ Mae’n gyfle perffaith i gyfarfod pobl newydd ac anaml iawn rwy’n teimlo’n unig yma diolch i’r grŵp arbennig hwn.
Rwyf wedi dechrau cerdded tipyn o’r Wainwrights ers symud yma. Mae mynyddoedd (fells) Ardal y Llynnoedd wedi eu henwi’n Wainwrights ar ôl disgrifiadau’r awdur a’r lluniwr Alfred Wainwright yn ei saith cyfrol o ‘Pictorial Guide to the Lakeland Fells.’ Mae ‘na 214 o Wainwrights ac er y bydd hi’n cymryd amser i’w gwneud nhw i gyd mi fysai’n braf gwneud cymaint â phosib tra rydw i yma. Dydd Sul mi gerddais i Red Screes ac er yn heriol mi wnes i fwynhau pob eiliad. Helvellyn sydd nesa ar y rhestr ac un peth rwyf wrth fy modd yn ei weld yn Cumbria ydy’r cysylltiadau efo’r Gymraeg fel sydd yn yr enw Helvellyn (‘hal’ sef hen air am waun a ‘melyn.’)
Yma y bydda i am y tro gan wneud y gorau o’r profiadau newydd yn mynydda, cymdeithasu a gwneud y swydd rwy’n ei charu.
Gorau Cymro, Cymro oddi cartref