Gredwch chi fyth, ond mae ’na 8 mlynedd wedi mynd heibio ers i ni fentro draw i’r Ŵyl Ban Geltaidd ddiwethaf! 8 mlynedd hir, hir ac felly mi roedd yna waith i’w wneud! Gwaith dysgu, gwaith canu, ac yn ôl traddodiad y Migs, gwaith joio i’w wneud! Ac wrth gwrs, mi gawson ni amser wrth ein boddau yn JOIO go iawn!
Ond dechrau’r daith oedd ymarfer a magu hyder. Yn sicr, roedd effaith yr hen gyfnod clo yn amlwg ac wedi rhoi stop ar bob dim. Felly dyma gychwyn ar y gwaith ac Eisteddfod Genedlaethol Boduan yn fan cychwyn da! Roeddem yn ddiolchgar iawn i gael cymryd rhan ar Lwyfan y Maes a chafwyd hwyl yn morio ein hoff ganeuon gerbron y gynulleidfa. Yna ymlaen i gystadlu yn y Côr Merched a derbyn y drydedd wobr mewn cystadleuaeth anodd! Sôn am fod wrth ein boddau! Mi roedd pawb wedi mwynhau yn arw. Ein Gwasanaeth Nadolig oedd nesa yn y calendr a chafwyd noson fendigedig yn Eglwys Llanllyfni! Diolch i bawb a ddaeth i’n cefnogi a diolch i swyddogion yr Eglwys am bob dim.
Ymlaen wedyn i Eisteddfod Bethesda ac roedd yna hen ddathlu pan enillon ni dlws yr Eisteddfod! Diolch eto i’r Eisteddfod a chafwyd gwledd o ganu gan y corau i gyd. Felly, roedd hi’n amlwg erbyn hyn ein bod yn barod am daith haeddiannol draw i’r Wyl Ban Geltaidd yn Carlow am y tro cyntaf ers blynyddoedd! A do, fe gawson ni lwyddiant unwaith eto! Lleisiau Mignedd yn cipio’r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth y Corau Merched. Sôn am ddathlu! Mi roedd na godi canu a chodi peint neu ddau neu dri i ddathlu! Diolch enfawr i bawb a fu’n rhan o’r paratoadau! Cafwyd amser da a phawb wedi cael modd i fyw! Diolch yn fawr i Ceren, Ffion a Rhian am eu gwaith caled drwy’r flwyddyn yn cadw trefn a chael y gorau allan o griw swnllyd o ferched! Diolch i’r leidis i gyd am gyfeillgarwch amhrisiadwy, i swyddogion y côr am eu gwaith ac wrth gwrs i Elen Wyn am drefnu’r daith. Gobeithio yn wir na fydd rhaid aros 8 mlynedd cyn y cawn ni fynd eto!