Gefeilliaid yn ymuno a Heddlu Gogledd Cymru

Elin a Lisa yn ymuno a’r Heddlu.

Elen Williams
gan Elen Williams
Llun-Elin-a-Lisa-2

Magwyd yr efeilliaid Elin a Lisa Jones ar fferm ym Mryncir, Gwynedd.

Pan oeddent yn wyth oed, bu farw eu tad yn drasig yn dilyn trawiad ar y galon. Yn ystod y cyfnod trawmatig hwn yn eu bywydau cawsant gefnogaeth a chysur gan heddweision. Mae’n bosib mai hynny fu’r sbardun ddaru ennyn eu diddordeb i ymuno a’r llu rhyw ddydd.

Dywed Lisa,’Rwy’n dal i gofio dau heddwas hyfryd yn ein cysuro ar yr adeg anoddaf yn ein bywydau.Cyn hynny, roeddwn bob amser wedi meddwl bod swyddogion yr heddlu i’w hofni, ond o’r diwrnod hwnnw ymlaen fe wnaethon nhw fy ysbrydoli. Roedden nhw yno i ni ar ein hamser tywyllaf ac wedi ein helpu i brosesu’r hyn oedd wedi digwydd. O hynny ymlaen roedd y ddwy ohonom eisiau helpu eraill fel y gwnaeth y swyddogion hynny ein helpu ni.’

Pan ddaeth eu cyfnod yn yr ysgol gynradd i ben, mynychodd y ddwy Ysgol Dyffryn Nantlle. Yn dilyn cwblhau eu cwrs Lefel A aeth y ddwy i weithio mewn ysgolion cynradd o 9 tan 3 ac yna yn syth i archfarchnad Asda i weithio fin nos. Yn gynharach eleni penderfynodd y ddwy gymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd a dilyn breuddwyd eu plentyndod o ddod yn swyddogion heddlu.

Dywedodd Elin, ‘Fe benderfynon ni wneud cais gyda’n gilydd oherwydd rydyn ni wastad wedi
gwneud popeth gyda’n gilydd ers pan oedden ni’n fach. Rydym mor hapus i fod yn mynd drwy’r
broses gyda’n gilydd a byddwn yn cefnogi ein gilydd yn ein gyrfaoedd newydd.’

Llwyddodd y ddwy i basio’r broses recriwtio a dechreuodd eu hyfforddiant cychwynnol yn Llanelwy ym mis Mehefin eleni. Ychwanegodd Lisa, ‘Roedd y broses ymgeisio yn heriol ond nid mwy na’r disgwyl. Rydym bellach dros hanner ffordd drwy ein hyfforddiant ac yn mwynhau’r broses hyd yn hyn.’

Pan ddaw cyfnod eu hyfforddiant cychwynnol i ben, bydd yr efeilliaid yn cael eu lleoli yn ardal De Gwynedd lle byddant yn ymuno fel swyddogion heddlu yn ymateb i alwadau brys, cefnogi
dioddefwyr trosedd a thaclo ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Y tu allan i’r gwaith, mae Elin a Lisa yn mwynhau chwarae pêl-droed, y ddwy yn chwarae i
Gaernarfon, ochr yn ochr â’u brawd sy’n rheolwr y tîm.