Dros yr haf mae grŵp Cyfeillion Talysarn a Nantlle wedi bod yn datblygu’r ardd gymunedol, Gardd Nant ym mhentre Talysarn, gan greu ardal gwyrdd a llesol i’r trigolion. Bob dydd Sul mae diwrnod gwirfoddoli yn cael ei gynnal gan y Cyfeillion ac ar ôl wythnosau o waith brwdfrydig gan bawb daeth y diwrnod plannu cyntaf yn hanes yr ardd. Wrth blannu planhigion synhwyraidd, perlysiau a bylbiau Cennin Pedr bydd digonedd o liw yn yr ardd pan ddaw’r gwanwyn. Dechreuodd y bore gan groesawu criw brwdfrydig o’r pentref a’r ardal cyfagos i blannu Cennin Pedr o amgylch yr ardd. Roedd y plant yn wên o glust i glust wrth helpu a chafwyd bore hwyliog a phawb yn mwynhau yn yr awyr agored. Roedd ysbryd cymunedol hapus yn yr ardd y diwrnod hwnnw. Wedi plannu 2 lond sach o fylbiau roedd hi’n amser paned. Roedd pawb yn ddiolchgar am gael seibiant a phrofi teisennau blasus gan Alison. Yn anffodus fe wnaeth y tywydd droi’n wlyb ond heb oedi aeth pawb ati i lenwi tri o wlâu planhigion synhwyrol cyn rhoi’r gorau iddi pan ddaeth y glaw trwm. Daeth plant bach Ysgol Feithrin Talysarn ar y dydd Mawrth canlynol i blannu mwy o fylbiau a pherlysiau. Bellach mae’r ardd yn werth ei gweld. Bydd diwrnod plannu coed ffrwythau yn y berllan yn digwydd mewn mis felly dewch i ymuno â ni pryd hynny. Bydd croeso cynnes i bawb ddod i fwynhau ein Gardd Gymunedol yma yn Nhalysarn. Am fwy o wybodaeth ewch i dudalen Facebook Cyfeillion Talysarn a Nantlle neu cysylltwch â ni garddnant@yahoo.com.