Cynhaliwyd Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Eryri eleni yn Neuadd Goffa Criccieth ar y Pedwerydd ar Bymtheg o Hydref lle cafodd Clwb Dyffryn Nantlle dipyn o lwyddiant. Cipwyd gwobrau gyntaf mewn cwpwl o gystadlaethau megis; Meim, Ensemble lleisiol a Chyfansoddi darn o gerddoriaeth. Cafodd y dawnsio gwerin y 3ydd safle, a merched Tyddyn isaf yn mynd a’r 4ydd wobr yng nghystadleuaeth y Triawd Doniol.
Ar ôl wythnosau o ymarfer yn Neuadd Goffa Llanllyfni roedd hi yn braf gweld yr aelodau yn cystadlu yn frwd yn yr Eisteddfod ac yn amlwg yn mwynhau ei hunain.
Mae’r clwb yn lwcus iawn o gefnogaeth hyfforddwyr brwd sydd mor barod i roi ei hamser. Diolch i Bethan Nantcyll am ei amser ac am baratoi sgriptiau i’r clwb. Rydym yn ddiolchgar hefyd i Elen Gwern a Manon Eithinog am hyfforddi’r ensemble.
Thema’r meim eleni oedd anifeiliaid a bu i Lois Caerloda’ ac Elen Nantcyll sgriptio cynhyrchiad gwych o stori dau gi yn disgyn mewn cariad. Mae’r clwb yn edrych ymlaen at berfformio’r meim a’r Ensemble Lleisiol yn Steddfod Cymru dechrau Mis Tachwedd; felly bydd yr ymarferion yn parhau.
Mi enlliodd y clwb darian hefyd am ennill y mwyaf o bwyntiau o fewn y 6 clwb lleiaf yn Eryri!
Pob lwc i’r Clwb lawr yn Eisteddfod Sir Gar mis Tachwedd!